Mae Sul y Tadau eleni ar Mehefin 16 ac isod fe welwch 'chydig o syniadau am gardiau ac anrhegion ar gyfer y diwrnod arbennig yma.

CARDIAU

Mae yna ddigon o ddewis yma yn Na-nôg am gardiau ar gyfer Dad, Taid a Tad-cu.  Dyma ddewis bychan o beth sydd ar gael.  Galwch i mewn i'r siop neu gallwch weld y dewis llawn o gardiau Sul y Tadau YMA ar ein gwefan.

CDs

Ydy Dad neu Taid yn hoff o wrando ar CDs?  Os ydy, mae gyda ni bron i 600 o gryno ddisgiau yn ein catalog - i weld y dewis llawn, cliciwch YMA.

LLYFRAU

Ydy Dad neu Taid yn hoffi darllen llyfrau gan awdur penodol?  Cyfres arbennig?  Neu'r teitlau diweddaraf?  Siwr fod rhywbeth yma iddo.

ATODION a RHYWBETH I WISGO

Tybed fyddai un o'r atodion yma yn addas ar gyfer eich Tad neu Taid?  Cap cynnes, cap bwced, cap pig, pâr o sanau neu rhywbeth i wisgo?

DIOD BACH?

Falle bo Taid yn hoff o baned a Dad yn hoffi peint?!  Siwr bo gyda ni rhywbeth ar gyfer y ddau.

ANRHEGION

Gobeithio bo chi wedi cael ysbrydoliaeth yma ar gyfer cael cerdyn ac anrheg ar gyfer Sul y Tadau.  Ewch i weld rhagor ar ein gwefan nawr www.na-nog.com neu galwch draw i'r siop Llun i Sadwrn 9.30-5.00.

Diolch am eich cefnogaeth.