Ar y 1af o Ebrill, nôl yn 2002, agorwyd drysau Siop Na-nôg ar y Maes yng Nghaernarfon am y tro cyntaf. Oeddech chi yno? Roedd y Maes yn llawn pobl a phlant oedd yn llawn cynwrf wedi dod draw am bnawn o hwyl gydag artistiaid amrywiol yn canu o flaen y siop, ac roedd pawb wedi gwirioni yn cael siop newydd oedd yn gwerthu popeth Cymraeg a Chymreig o dan un to yng Nghaernarfon. Dyna oedd diwrnod balch iawn i berchnogion y siop, Cwmni Sain o Landwrog.

Ugain mlynedd yn ddiweddarach mae pethe wedi newid cryn dipyn! Mae’r siop wedi addasu llawer ar y nwyddau sydd yn cael eu gwerthu yno i ymateb i’r hyn mae cwsmeriaid wedi bod yn holi amdano - fel rhagor o gardiau Cymraeg, rhagor o anrhegion, ac yn parhau i argraffu nwyddau personol ac unigryw sydd yn gwneud anrhegion arbennig.

Ugain mlynedd nôl doedd na ddim fath beth a chyfryngau cymdeithasol, ond bellach mae Na-nôg gyda presenoldeb ar sawl platfform gyda sawl mil yn eu dilyn.

Yn fwy diweddar, fel pawb arall, mae’r siop wedi bod trwy gyfnod anodd a heriol y Cofid. Ond roedd rhaid i’r siop addasu, a sefydlwyd y cyfleuster ‘Clicio a Chasglu’ ar eu gwefan ac roedd archebion yn cael eu postio trwy Gymru gyfan a thu hwnt ac maent yn hynod, hynod ddiolchgar am y gefnogaeth ddaru gadw’r siop a’r staff i fynd trwy’r cyfnod anodd yma.

Rwan fod pethe yn dechrau setlo lawr ar ôl y Cofid, mae’r staff yn y siop yn awyddus i weld cwsmeriaid yn dychwelyd i’r dref i siopa. Mae’r wynebau cyfarwydd a’r cwsmeriaid ffyddlon yn dechrau ymweld gyda’r siop yn fwy rheolaidd, a gobeithio fydd y rhai sydd yn dod yma yn flynyddol ar eu gwyliau yn teimlo yn hyderus i ddychwelyd yr haf yma. Mae’r staff yn edrych ymlaen i’ch croesawu!

Yn anffodus eleni, oherwydd yr amserlen a gwybod lle roedd pawb yn sefyll gyda’r rheolau Cofid diweddaraf, fydd dim modd dathlu gyda pharti mawr ar y Maes fel ddigwyddod ugain mlynedd nôl, ac felly i ddathlu eleni bydd Na-nôg yn -

• ail-frandio’r cwmni - bydd Na-nôg yn datgelu logo newydd ar gacen penblwydd ar eu cyfryngau cymdeithasol ar y 1af o Ebrill. • yn ogystal a rhannu darn o’r gacen gyda’r cwsmeriaid ar eu diwrnod pen-blwydd, bydd Na-nôg wedi dethol eitemau cyfyngedig fydd yn cael eu rhoi allan am ddim i gwsmeriaid fydd yn gwario yn y siop ar y 1af o Ebrill (tra pery’r stoc). Cyntaf i’r felin fydd hi!

• Bydd y rac bargeinion Cryno Ddisgiau yn dychwelyd i’r siop ar y 1af o Ebrill yn cynnwys stoc cyfyngedig ‘prynu un, cael un arall am ddim’! • Bydd detholiad o lyfrau plant a phobl ifanc yn parhau ar hanner pris (tra pery stoc).

• I’r rheini ohonoch sydd ddim digon lwcus i alw yn y siop, bydd anrheg bach yn cael ei gynnwys ym mhob archeb sydd yn cael ei gosod ar y wefan yn ystod mis Ebrill, tra pery stoc - felly cofiwch siopa ar y wefan yn gynnar yn y mis! - www.na-nog.com

• Yn ystod y flwyddyn pen-blwydd, bydd Na-nôg yn lawnsio sustem casglu pwyntiau ar gyfer derbyn gostyngiadau arbennig pan yn siopa gyda Na-nôg yn y siop ac ar y wefan. Bydd modd ennill pwyntiau drwy siopa, rhannu straeon ar gyfryngau cymdeithasol ac yn y blaen. Bydd rhagor o fanylion am hyn yn ystod y misoedd nesaf. Ar hyn o bryd, mae’r siop yn disgwyl gwedd newidiad i flaen y siop - mae llawer o bethau yn digwydd ac yn cael eu cynllunio tu ôl i’r llenni, ond gobeithio erbyn yr haf, bydd y sgaffolds sydd ar flaen y siop wedi diflannu i ddatgelu’r siop ar ei newydd wedd, yn lliwgar a ffresh gyda’r logo newydd ac arbennig.

Gobeithio bydd modd i chi ymuno gyda Na-nôg rhyw ffordd neu gilydd ar y 1af o Ebrill, boed hynny

• wyneb yn wyneb yn y siop ar y Maes yng Nghaernarfon

• ar y wefan www.na-nog.com

• ar Instagram @siop nanog

• ar Facebook www.facebook.com/SiopNanog

• ar Twitter @SiopNanog

• ar Tik Tok @siopnanog

Meddai’r Rheolwr, “Hoffem ddiolch o galon i bob un ohonoch am eich cefnogaeth dros yr ugain mlynedd diwethaf a gobeithio am flynyddoedd eto i ddod! Rydym wrth ein boddau yn y siop sydd yn ganolog i’r dref yn gwasanaethu pobl y dref, y pentrefi cyfagos, ymwelwyr, llyfrgelloedd ac ysgolion lleol gyda chynnyrch Cymraeg a Chymreig. Dathlwch y garreg filltir arbennig yma efo ni!