Amser

Author: Glyn Saunders Jones, Gill Saunders Jones.

Series: Chwarae a Dysgu Magnetig

From soft A volume to assist children to tell the time, using magnetic pieces. Suitable for the Foundation Stage.

 

Awdur: Glyn Saunders Jones, Gill Saunders Jones.

Cyfres: Chwarae a Dysgu Magnetig

Cyfrol sy'n cynorthwyo plant i ddweud yr amser drwy ddefnyddio darnau magnetig. Addas i'r Cyfnod Sylfaen.

Dyma adnodd gwych ar gyfer dysgu dweud yr amser. Yn ogystal â’r stori fach am ddiwrnod ar y traeth, mae yma gyfle i chwarae (a dysgu) gyda chlociau a lluniau bach magnetig (23 o ddarnau).

Gall plant iau ddilyn stori’r ferch sy’n dal y trên i fynd i’r traeth i adeiladu cestyll tywod, cael picnic, mynd ar gefn mul bach, mynd i’r ffair, a bwyta hufen iâ, ac yna’n dod adref i gael stori a mynd i’r gwely’n brydlon a bodlon. Gallant hefyd fwynhau gosod yr eitemau bach magnetig (tedi, trên, bwced, castell tywod, ac ati) ar y lluniau perthnasol. Ceir deuddeg cloc bach magnetig yn mynd o 1 i 12 o’r gloch, a bydd plant hŷn yn medru dewis y cloc cywir ar gyfer pob llun.

Bydd y llyfr hwn yn apelio’n fawr at unrhyw blentyn sy’n hoffi sticeri. Mae’n fwy na llyfr, mae’n degan hefyd. Mae’r pwyslais ar ddysgu dweud yr amser yn hytrach nag ar y stori, felly mae’r testun yn syml iawn, ac fe’i ceir yn Saesneg mewn ffont lai o dan y Gymraeg.

Heather Williams
Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

£7.99 -



Code(s)Rhifnod: 9781905255450
9781905255450

You may also like .....Falle hoffech chi .....