Item added to your cart:Wedi ei roi yn eich basged:
Items in your cartNwyddau yn eich basged
TotalCyfanswm: GBP
Author: Zonia Bowen.
A real gem of an autobiography. A humble, touching and humorous account of the vibrant life of Zonia Bowen, an Englishwoman who embraced the Welsh language and became a key figure in the period leading up to the establishment of Merched y Wawr.
Awdur: Zonia Bowen.
Hunangofiant agos atoch a gonest Zonia Bowen. Dyma gofnod cwbl naturiol a ffraeth am fywyd lliwgar Saesnes a gofleidiodd yr iaith Gymraeg ac a fu'n allweddol yn arwain merched y Parc i sefydlu Merched y Wawr.
Nid wyf yn or-hoff o hunangofiannau, a chyfaddefaf fod dau gen i wrth erchwyn fy ngwely sydd heb eu gorffen am nad ydyn nhw'n cynnal dal fy sylw. Ond rwy'n sicr y byddwn wedi gorffen darllen y llyfr hwn, hyd yn oed pe na bawn wedi cael cais i'w adolygu. Mae'r llyfr yn ddarllenadwy, ysgrifenna'r awdur yn onest, yn ddiflewyn-ar-dafod a heb wastraff geiriau.
Saesnes yw Zonia Bowen – fe'i ganed yn 1926 yn Norfolk a'i magu yn Swydd Efrog. Roedd teulu ei thad yn ystyried eu bod yn perthyn i ddosbarth cymdeithasol uwch na theulu ei mam ac, er mai dim ond rhyw dair neu bedair milltir oedd rhwng cartrefi'r teuluoedd, ni wnaeth y ddau deulu gwrdd erioed. Bu'n rhaid i dad Zonia fynd i fyw at ei fam-gu wedi i'w fam adael ei dad. Cafodd fagwraeth anhapus iawn yno dan ddisgyblaeth lem a chreulon ei fam-gu; disgrifiwyd hi fel 'unrelenting puritan'.
Rhydd-feddyliwr yw Zonia Bowen. Anffyddwyr oedd ei rhieni ond pwysleisia na wnaethant erioed ddylanwadu arni i beidio â mynd i gapel neu eglwys gyda'i ffrindiau. Credent hwy y dylai pawb gael rhyddid i benderfynu drosto'i hun a rhydd i bawb ei farn. Roedd yn well ganddi hi 'dderbyn eglurhad biolegwyr fod dyn, fel popeth arall byw, wedi esblygu o ffurfiau symlach o fywyd yn hytrach na derbyn gair y Beibl ynglŷn â'r creu'. Felly doedd dim dewis gan ddynion ond mynd ar eu liwt eu hunain i geisio datrys eu problemau a helpu ei gilydd.
Daeth Zonia Bowen i'r Brifysgol ym Mangor yn 1963 i astudio Ffrangeg. Roedd ei thad yn siarad yr iaith ac fe ddysgodd hi i'w ferch. Doedd Zonia Bowen ddim yn sylweddoli cyn dod i Fangor ei bod yn dod i wlad arall gyda'i hiaith a'i diwylliant ei hun. Bryd hynny roedd y rhan fwyaf o fyfyrwyr y Brifysgol yn siarad Cymraeg. Mewn llythyr arall at ei chwaer dywed 'everybody talks to each other in Welsh. There are only about three of us who can't understand it and we look at each other helplessly'. Cyn diwedd y flwyddyn roedd yn sgrifennu 'I have set my mind to learn Welsh, and I am not getting on too badly'. Pan gyfarfu â'i gŵr, y diweddar Brifardd ac Archdderwydd Geraint Bowen, fe ddaeth y Gymraeg yn rhan annatod o'i bywyd. Priodwyd hwy yn 1947 a bu'r ddau yn gweithio'n ddygn dros yr iaith mewn amryw ffyrdd.
Fel un sy'n aelod o Ferched y Wawr ers blynyddoedd lawer edmygaf ymdrechion diflino Zonia Bowen a'r merched eraill o ardal y Parc ger y Bala a aeth ati i sefydlu mudiad i ferched a fyddai'n gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd Zonia Bowen yn aelod o gangen newydd Sefydliad y Merched (WI) yn y Parc a phryd hynny roedd y gangen yn cynnal y cyfarfodydd drwy gyfrwng y Gymraeg. Buan iawn y gwelodd hi mai sefydliad cwbwl Seisnig oedd y WI yr adeg honno, er mai cangen Sir Fôn oedd y cyntaf i'w sefydlu drwy Brydain. Yn dilyn gwrthwynebiad swyddogion y WI yn sirol dros yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg daethpwyd â'r gangen i ben ac aethpwyd ati i ffurfio mudiad newydd yn 1967. Heb os nac onibai Zonia Bowen oedd un o'r arweinwyr allweddol wrth sefydlu'r mudiad a bu'n aelod blaenllaw am nifer o flynyddoedd.
Mae Merched y Wawr yn dal i fynd o nerth i nerth ond ni fu Zonia Bowen yn aelod er 1975, yn dilyn 'anghydfod hirhoedlog'. Nid yw'r mudiad rwyf i'n ei adnabod yn debyg o gwbl i'r hyn a ddisgrifia Zonia Bowen yn ei hunangofiant. Yn sicr, mae croeso i bawb ymuno â ni, rydym yn fudiad gwladgarol, yn amhleidiol yn boliticaidd ac yn anenwadol yn grefyddol.
Ble bynnag y bu hi'n byw yng Nghymru, boed ym Mangor, Sir Ddinbych, Caerdydd neu Sir Feirionnydd, y Gymraeg sydd wedi llywio bywyd Zonia Bowen. Gresyn na fyddai pawb sydd yn symud i Gymru yn mynd ati i gefnogi a defnyddio'r iaith fel y gwnaeth hi. Yn wir, gresyn nad yw nifer o Gymry sydd wedi eu geni a'u magu yng Nghymru yn gwerthfawrogi'n hiaith yr un modd. Diolch iddi hi am ei chyfraniad clodwiw i'n hiaith a'n cenedl. Hunangofiant cofiadwy iawn.
Gill Griffiths
Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
Cliciwch yma os am lawrlwytho e-lyfr o'r teitl yma.