Yr Oesoedd Canol Cythryblus

Author: Catrin Stevens.

Series: Hanes Atgas.

A book of gruesome and entertaining historical facts about the Middle Ages.

 

Awdur: Catrin Stevens.

Cyfres: Hanes Atgas.

Cyfrol yn llawn hanesion gwir ac atgas am yr Oesoedd Canol.

 

Ysgrifennwyd y llyfr hwn ar batrwm y gyfres boblogaidd Horrible Histories. Y man cychwyn yw bod plant yn meddwl bod hanes yn ddiflas. Ond mae’r llyfr hwn ar ochr y plant, ac yn ymfalchïo mewn cyflwyno hanesion a ffeithiau atgas a ffiaidd iddynt, gan eu haddysgu yr un pryd wrth gwrs.

Ydi hyn yn gweithio yw’r cwestiwn. Wedi’r cyfan, mae plant yn gallu gweld trwy ymdrechion i wneud pethau yn ‘hwyl’ yn gyflym iawn. Wel, ydi yn bendant yn fy marn i, a does dim rhaid i chi ddarllen ymhellach na’r ddwy dudalen gyntaf i sylweddoli hynny. Dwy jôc i ddechrau, gyda’r ffeithiau’n cael eu hegluro wedyn. Yna cwis aml-ddewis, gydag un dewis doniol ym mhob un, yna llinell amser hirach a mwy ‘difrifol’ cyn torri’r cyfan gyda limrig. I’r dim! Mae’r cyfan yn Gymreig iawn drwodd a thro.

Ynghanol yr hwyl a’r clyfrwch, mae’r llyfr yn llawn hanes ffeithiol hefyd. Cawn gipolwg ar hanes yr Oesoedd Canol o ran rhyfeloedd, merched, crefydd, iechyd, bwyd a barddoniaeth. Campwaith gan rywun sy’n deall ei phwnc ac yn deall meddwl plentyn. Cefais i flas mawr ar y llyfr – fel oedolyn roeddwn wrth fy modd â’r agwedd tafod-yn-y-boch. O ran oed y darllenwr, byddwn i’n awgrymu plant ar ddiwedd yr ysgol gynradd (Blwyddyn 5 a 6) a dechrau’r ysgol uwchradd. Gellid ei ddefnyddio hefyd i atgyfnerthu astudiaethau disgyblion hŷn yr ysgol uwchradd. Llyfr hanes gwerth ei gael.

Sioned Elin Jones


£5.99 -



Code(s)Rhifnod: 9781843234234
9781843234234

You may also like .....Falle hoffech chi .....