Item added to your cart:Wedi ei roi yn eich basged:
Items in your cartNwyddau yn eich basged
TotalCyfanswm: GBP
Author: Lona Patel.
13 year old Magi, sent into service on Weirglodd Wen farm, embraces her new adventure as an opportunity to spread her wings, make new friends and earn money to give to her mother. On being warned of the handsome son of the farm, and learning that the fate of the former maid at Weirglodd Wen was death, she realises her new life does not seem quite as exciting ...
Awdur: Lona Patel.
I Magi, mae cael ei gyrru i fferm y Weirglodd Wen i weini yn dair ar ddeg oed yn antur newydd - cyfle i ehangu ei gorwelion, cyfarfod ffrindiau newydd ac ennill arian i'w roi i'w mam ar ben tymor. Ond pan gaiff ei rhybuddio am fab golygus y fferm, a chanfod mai marw fu tynged morwyn fach flaenorol y Weirglodd Wen, tydi ei bywyd newydd ddim yn ymddangos mor gyffrous ...
Cafodd Lona Patel ei magu ym Mhen Llŷn, ac ar ôl mynychu Ysgol Botwnnog a'r Coleg Normal ym Mangor, treuliodd gyfnodau yn dysgu yn Sheffield ac ar Ynys Wyth cyn ymfudo i Montréal ac wedyn i Buffalo, Efrog Newydd. Mae bellach wedi ymddeol ac yn rhannu ei hamser rhwng de-ddwyrain Lloegr a'r Rhiw yn Llŷn. Dechreuodd ysgrifennu ar ôl iddi ymddeol, a hon yw ei nofel gyntaf.