Y Ddau Lais

The popular appeal of two voices singing in harmony is evident in many cultures, but especially so in Welsh popular music. Often, the duet grows out of a family unit – sisters, brothers, father and son or mother and daughter – and sometimes, two solo artists come together for a one-off recording, but whatever the reason, when two voices find that they complement each other, it is very often a formula for popular success.

From among the wide range of duets featured on this compilation album are some of the most successful names of Welsh pop – Tony ac Aloma, John ac Alun, and Rosalind a Myrddin have all featured on their own TV series. But all of them bring their own special brand of harmony singing to the stage. And this album we know will be well received by all followers of popular and country-style music.

Tracks -

1: Un Noson Arall - John ac Alun

2: Rhywbeth yn Galw - 'Gary a Susan' (Bryn Fôn a Morfudd Hughes)

3: Mae d'eisiau di bob awr - Gwenda a Geinor

4: Y Rhosyn - Gillian Elisa a Iona Myfyr

5: Rhywbeth Syml - Mary Hopkin ac Edward

6: Cofio o Hyd - Rosalind a Myrddin

7: Cajun Jambylai - Dylan a Neil

8: Gafael yn fy Llaw - Karen Owen 'Môn-heli' a Wil Tân

9: Tân ar Hen Aelwyd - Broc Môr

10: Penrhyn Llyn - John ac Alun

11: Cerdded Dros y Mynydd - Iona ac Andy

12: Rho dy Law - Rosalind a Myrddin

13: Wedi Colli Rhywbeth sy’n Annwyl Tony ac Aloma

14: Ble’r aeth yr Haul? - Huw Jones a Heather Jones

15: Yr Hen Simdda Fawr - Aled a Reg

16: Ti a dy Ddoniau - Ryan a Ronnie

17: Hiraeth Haf - Vernon a Gwynfor

18: Coedwig ar Dân - Enid ac Ivan

19: Ffordd yw’r Goleuni - Tonig

20: Cân i Ryan - Y Brodyr Gregory

 

 

Mae’n anodd esbonio beth yn hollol yw apêl dau lais yn canu mewn harmoni, ond mae’n sicr wedi bod yn nodwedd amlwg o ganu poblogaidd Cymraeg ers tro byd. Enw sy’n taro cloch i lawer, yn enwedig yn ardal Dyffryn Nantlle, yw’r Brodyr Francis, ac mae’n bosib dadlau mai nhw oedd y ‘cantorion pop’ cyntaf yn y diwylliant Cymraeg, ond yn anffodus, nid oes unrhyw recordiad ohonynt (hyd y gwyddom) ar gael. Mae enwau’r brodyr Jac a Wil o Gefneithin yn dod o gyfnod ychydig yn diweddarach, a’u disgiau yn dal i werthu’n rheolaidd. Ar eu hôl nhw daeth nifer o ddeuawdau i serennu wrth i’r byd pop Cymraeg dyfu, a chlywir rhai ohonyn nhw yn y casgliad hwn – Aled a Reg, Tony ac Aloma, Vernon a Gwynfor a Rosalind a Myrddin yn eu plith.

Wrth i ganu gwlad fagu gwreiddiau yn Gymraeg, daeth nifer o ddeuawdau eraill fel Iona ac Andy a John ac Alun, Broc Môr a Dylan a Neil, i’r amlwg. Mae’r rhan fwyaf a enwyd wedi gwneud eu marc fel deuawdau sefydlog, ond weithiau daw dau lais unigol at ei gilydd ar gyfer gwneud recordiad arbennig, a dyna a ddigwyddodd gyda Gillian Elisa a Iona, Wil Tân a Karen Môn Heli, Edward a Mary Hopkin a Huw Jones a Heather. Yn achos ‘Gary a Susan’, daeth Bryn Fôn a Morfudd Hughes at ei gilydd ar gyfer cyfres deledu am ddeuawd canu gwlad, ac wrth gwrs roedd Ryan a Ronnie yn enwog fel deuawd gomedi yn ogystal â deuawd gerddorol.

Difyr hefyd yw sylwi ar y cyslltiad teuluol sydd rhwng cynifer o’r deuawdau Cymraeg hyn – Rosalind a Myrddin, Iona ac Andy (gwr a gwraig), Dylan a Neil (tad a mab), Brodyr Gregory a Broc Môr (brodyr), Tonig (dwy chwaer), a Gwenda a Geinor (mam a merch). Ond beth bynnag yw’r rheswm, mae’r casgliad hwn yn profi fod poblogrwydd ac apêl y ddau lais Cymraeg mewn harmoni cyn gryfed ag erioed. Dafydd Iwan

Traciau -

1: Un Noson Arall - John ac Alun

2: Rhywbeth yn Galw - 'Gary a Susan' (Bryn Fôn a Morfudd Hughes)

3: Mae d'eisiau di bob awr - Gwenda a Geinor

4: Y Rhosyn - Gillian Elisa a Iona Myfyr

5: Rhywbeth Syml - Mary Hopkin ac Edward

6: Cofio o Hyd - Rosalind a Myrddin

7: Cajun Jambylai - Dylan a Neil

8: Gafael yn fy Llaw - Karen Owen 'Môn-heli' a Wil Tân

9: Tân ar Hen Aelwyd - Broc Môr

10: Penrhyn Llyn - John ac Alun

11: Cerdded Dros y Mynydd - Iona ac Andy

12: Rho dy Law - Rosalind a Myrddin

13: Wedi Colli Rhywbeth sy’n Annwyl Tony ac Aloma

14: Ble’r aeth yr Haul? - Huw Jones a Heather Jones

15: Yr Hen Simdda Fawr - Aled a Reg

16: Ti a dy Ddoniau - Ryan a Ronnie

17: Hiraeth Haf - Vernon a Gwynfor

18: Coedwig ar Dân - Enid ac Ivan

19: Ffordd yw’r Goleuni - Tonig

20: Cân i Ryan - Y Brodyr Gregory

£9.99 -



Code(s)Rhifnod: 5016886269122
Sain SCD2691

You may also like .....Falle hoffech chi .....