Wedi ei roi yn eich basged:
Nwyddau yn eich basged
Cyfanswm: GBP
Ffurfiwyd Winabego yng Ngwanwyn 2002. Bu iddynt weithio'n galed ar eu caneuon cynnar yn ystod y flwyddyn honno cyn perfformio'n fyw am y tro cyntaf yn Y Railway ym Mangor yn cefnogi The Keys. Ers y dyddiau cynnar mae Winabego wedi gigio'n solad ledled Cymru.
Dyma'r E.P cyntaf, sef 'Hyder Bregus' a bu'n 'Record yr Wythnos' ar raglen radio Huw Stephens. Cynhyrchwyd y recordiad gan Dyfrig Wyn Evans, gynt o Topper (mae Dyfrig hefyd yn frawd i Dylan, gitarydd Winabego).
Winabego ydy Dylan Wyn Evans, Aled Wyn Jones, Meic parry a Llew Roberts.
Traciau -
01 - Llawenydd achlysurol
02 - Dim cytundeb
03 - Symud mewn gofod
04 - Unarddeg dyn i lawr
05 - Lucifer’s lament.