Item added to your cart:Wedi ei roi yn eich basged:
Items in your cartNwyddau yn eich basged
TotalCyfanswm: GBP
Author: Timothy Knapman; Welsh Adaptation: Casia Wiliam.
Weithiau Dwi'n Gandryll / Sometimes I Am Furious is a hilarious and reassuring story about how tough it can be being - and having - a toddler, from bestselling duo Timothy Knapman and Joe Berger. A Welsh adaptation by Casia Wiliam.
Awdur: Timothy Knapman; Addasiad Cymraeg: Casia Wiliam.
Llyfr stori-a-llun doniol gan y ddeuawd hynod boblogaidd Timothy Knapman a Joe Berger am yr heriau o fod yn blentyn bach ac o fod yn rhiant i blentyn bach! Addasiad Cymraeg gan Casia Wiliam o Sometimes I Am Furious.
Merch fach… teimladau MAWR!
Mae bywyd yn sbort a sbri pan mae popeth yn iawn. Ond weithiau, rhai dyddiau, bydd rhywbeth yn hynod o ANHEG. Hufen iâ yn toddi, crys-t sy’n rhy dynn, bachgen sy’n gwrthod rhannu ... mae’n ddigon i’ch gwneud chi’n GANDRYLL. Ond, fel mae’r ferch fach hon yn darganfod, gall hi ddatrys popeth gydag anadl ddwfn, cân hapus a chwtsh cynnes, clyd.
Llyfr doniol ac annwyl sy’n hawdd uniaethu ag o ar gyfer plant ifanc am deimladau cryfion a sut i ddelio â nhw. Gyda chyngor ymarferol yn rhan o’r stori, mae’r llyfr hwn yn annog sgwrs rhwng oedolyn a phlentyn.