Wal

Author: Mari Emlyn.

As Siân attempts to write, there is an electric cut. In the darkness, she begins to think about her neighbour, Simon Kaltenbach, who has built a great, ugly wall between the two houses. This leads her to recall her upbringing, and the walls that hindered her development as a child.

 

Awdur: Mari Emlyn.

Wrth i Siân geisio ysgrifennu, daw toriad i'r trydan. Yn y tywyllwch, mae'n hel meddyliau am Simon Kaltenbach, ei chymydog, sydd wedi adeiladu wal fawr hyll rhwng y ddau dŷ. Mae hyn yn ei harwain i gofio ei magwrfa a'r waliau fu'n gymaint rhwystr yn ei phlentyndod. Beth ddigwyddodd i'w brawd, Gareth? Pam nad oedd Siân yn hoffi Anti Rita?

 

Nofel amlhaenog gyda themâu cyfoes yn rhedeg drwyddi. Mae’r nofel yn dilyn fformat llyfr sydd yn helpu plant dysgu darllen. Wrth i’r nofel fynd rhagddi, mae ffont y geiriau yn mynd yn llai, sef arwydd o ddatblygiad llythrennedd plentyn. Yn Wal mae’n arwydd o’r prif gymeriad, Siân, yn dysgu mwy amdani hi ei hun a theflir goleuni ar y tywyllwch a chodir pontydd yn lle waliau. Mae Wal hefyd yn lyfr clawr caled a gwelir geiriau allweddol yn britho gwaelod y ddalen.


Dywedodd Mereid Hopwood yn ei beirniadaeth ar y nofel hon yng nghystadleuaeth Y Fedal Ryddiaith, Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019, fod yma waith 'cynnil, meistrolgar a chwbl wreiddiol'.

£7.99 -



Code(s)Rhifnod: 9781800991385
9781800991385

You may also like .....Falle hoffech chi .....