Un Nos Ola Leuad

Author: Caradog Prichard.

A new edition of Caradog Prichard's powerful novel about a troubled young boy's childhood in a north Wales quarrying village. First published in 1961.

 

Awdur: Caradog Prichard.

Argraffiad newydd o glasur Caradog Prichard am blentyndod cythryblus mewn pentref chwarelyddol yn Nyffryn Ogwen. Cyhoeddwyd y nofel yn wreiddiol yn 1961.

 

Fel fi, mae’n ddigon posib mai’r tro diwethaf i chi ddarllen y nofel hon oedd dan gyfarwyddyd athro neu athrawes, gan orfod dadansoddi pob cymal a brawddeg (a cheisio dysgu rhai o’r dyfyniadau mwyaf ‘arwyddocaol’ ar gof cyn arholiad neu brawf!) yn ogystal â gorfod ysgrifennu crynodeb o bob pennod yn waith cartref. Dydw i ddim yn cwestiynu am eiliad y drefn o astudio clasuron ein llên fel rhan o faes llafur cyrsiau Cymraeg, ond sgwn i pa mor barod ydyn ni wedyn i droi’n ôl at y cyfrolau hyn o’n gwirfodd a’u mwynhau yn ein hamser hamdden?

Daeth cais yn dod i mi bori rhwng cloriau’r nofel unwaith yn rhagor, a dyma darganfod, er fy ngwaethaf bron, fod yna rywbeth cysurus, braf am ddychwelyd at y nofel anghysurus, hegar hon. Crwydro hyd y Lôn Bost hyd at Ben Llyn Du y mae’r bachgen o hyd, ond y tro yma mae mwy o bleser i’w gael – os ‘pleser’ yw’r gair – wrth ei ddilyn tua’i dranc.

Ac rydw i’n synhwyro, rywsut, bod mwy i’w weld y tro yma – mae’r manylion fel petaen nhw’n glynu yn y cof ac yn canu cloch yn nes ymlaen, a phob pennod drist ar hyd y daith wedi’u saernïo yn daclus ac yn grwn. O ddarllen y nofel ar ei hyd, yn hytrach na fesul gwers, mae’r undod yn dod yn amlwg a’r llif yn cyflymu wrth inni glosio tuag at y diwedd anorfod.

I mi, mae hi’n nofel dristach nag oedd hi ddeng mlynedd yn ôl hefyd, a’r tywyllwch yn fy llyncu’n fwy cyfan gwbl rywsut. Pry cop ar drugaredd ei we yw’r bachgen, yn union fel hwnnw sy’n ceisio dianc drwy ffenest ar ddechrau’r bedwaredd bennod ar ddeg. ‘Dyna lle oedd o’n cerddad ar hyd y gwydyr . . . cerddad am dipyn bach a cael codwm, a mynd yn ei ôl a cerddad a cael codwm wedyn. Ond oedd o byth yn syrthio ar lawr achos oedd gwe pry cop run fath a lastig yn ei ddal o’n hongian pan oedd o’n cael codwm, a dyna sud oedd o’n medru dŵad yn ei ôl ar ffenast bob tro.’ Ond breuo y mae’r lastig gyda phob ergyd a ddaw i ran y bachgen, hyd nes nad oes dim i’w godi wedi’r codwm olaf.

Mae ’na un peth yn sicr, wna i ddim cadw draw cyhyd eto.

Nia Peris

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

£9.99 -



Code(s)Rhifnod: 9781800991002
9781800991002

You may also like .....Falle hoffech chi .....