Un Diwrnod Gwlyb

Author: M. Christina Butler; Welsh Adaptation: Sioned Lleinau.

The Little Hedgehog is thrilled to wake up one morning to see that it's raining. At last, he can wear his new coat, hat and wellies, and use his shiny umbrella. A Welsh adaptation of One Rainy Day and a sequel to Un Noson Oer.

 

Awdur: M. Christina Butler; Addasiad Cymraeg: Sioned Lleinau.

Mae Draenog Bach wrth ei fodd yn deffro un bore a chanfod ei bod hi'n bwrw glaw. O'r diwedd, gall wisgo ei got, ei het a'i esgidiau glaw newydd, hyfryd, heb sôn am ddefnyddio ei ymbarél sgleiniog. Ond wrth i'r glaw waethygu ac i'r gwynt godi, mae diwrnod gwlyb Draenog Bach yn troi'n dipyn o antur! Addasiad Cymraeg o One Rainy Day. Dilyniant hyfryd iUn Noson Oer.

 

Dyma stori fach syml ond effeithiol am anturiaethau Draenog Bach yn y glaw.

Mae Draenog Bach wrth ei fodd yn gweld glaw oherwydd ei fod yn awyddus i wisgo’i ddillad glaw newydd, ac i fynd allan am dro. Mae’r got, yr het, yr esgidiau glaw a’r ymbarél oll yn sgleiniog, ac mae’r lluniau ohonynt yn sgleiniog ar bob tudalen. Pan wêl ei ffrind, Gwahadden, mae’n cynnig ei ymbarél iddi, ond mae’r gwynt yn chwythu’r ymbarél gan fygwth eu codi i’r awyr. Yna defnyddiant yr ymbarél fel cwch bach ar yr afon, nes i Cadno weiddi arnynt i ddod i achub teulu bach o lygod. Ânt â’r llygod i dŷ Mochyn Daear i sychu, ond yno mae’r glaw yn dod i mewn trwy’r to, ac felly dyma ddefnyddio’r ymbarél unwaith yn rhagor ac o’r diwedd mae pawb yn hapus ac yn sych.

Bydd y cymeriadau hoffus a’r lluniau hyfryd yn apelio’n fawr at y plant lleiaf.

Heather Williams

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

£5.99 -



Code(s)Rhifnod: 9781843239611
9781843239611

You may also like .....Falle hoffech chi .....