Tuchan o Flaen Duw

Author: Aled Jones Williams.

The autobiography of the novelist and playwright Aled Jones Williams. According to the author he has concentrated on two aspects of his life, namely alcoholism and God.

 

Awdur: Aled Jones Williams.

Hunangofiant y llenor a'r dramodydd arbrofol Aled Jones Williams. Yn ôl yr awdur, dwy bennod o hunangofiant a geir yma sef alcoholiaeth a Duw. Daw'r teitl o waith Morgan Llwyd, Gwaedd yng Nghymru yn Wyneb Pob Cydwybod.

 

Teimlad digon brawychus yw pori drwy hunangofiant rhywun arall a dod, yma ac acw, wyneb yn wyneb â chi eich hun. Ond dyna’r profiad ges i wrth ddarllen Tuchan o Flaen Duw, hunangofiant rhyfeddol Aled Jones Williams. Cystal i mi ddweud na wnes i erioed ddarllen unrhyw beth sydd wedi dod mor uniongyrchol o’r enaid.

Ystyrir yr hunangofiannydd hwn fel un o’n hawduron mwyaf dadleuol. Ond eto i gyd, prin fedra i gofio i mi gytuno mor hawdd ag unrhyw un erioed. Mae yna wirioneddau sy’n tasgu allan o’r tudalennau. Ac mae'r rheiny’n rhai mor amlwg fel y teimlwn, wrth eu darllen, fel cicio fy hun am beidio â’u darganfod fy hunan, a hynny flynyddoedd yn ôl.

Mae Aled Jones Williams yn torri pob rheol hunangofiannol. Pwy arall fyddai'n cychwyn ei ragair trwy ddweud mai math ar gelwydd, yn y bôn, yw pob hunangofiant? Ac o feddwl am y peth, mae e’n iawn. Dewisir rhai pethau ar draul pethau eraill, meddai. A dyna pam y gwnaeth ‘ddewis’ dau bwnc yn unig – alcoholiaeth a Duw.

Mae ei agoriad wrth drafod ei alcoholiaeth yn syfrdanol. A dyma fi’n gweld fy hun yn sefyll yn ei sgidiau. Mae ei ddatgeliadau diflewyn-ar-dafod yn fy atgoffa pa mor agos y deuthum i fy hun i ddisgyn i’r fagl. Mae yna hen ddywediad Saesneg sy’n son am rywbeth fel, ‘Yno, oni bai am ras Duw, yr awn innau.’ Ond gwn mai ffawd yn hytrach na dim byd arall fu’n gyfrifol am fy ‘achubiaeth’ i.

Ac mae cyfeirio at ras Duw yn fy arwain yn dwt at yr ail bennod o’r hunangofiant. Mae hi'n agor â dadansoddiad o’r gymhariaeth rhwng ‘dyn crefyddol’ a ‘dyn da’. Ac yma eto gwelaf fy hun, wrth ddarllen, yn edrych mewn drych. Wn i ddim sawl tro y gofynnais, fel yr emynydd, ‘Dwed i mi, ai fi oedd hwnnw?’

Dyna i chi ei ddadansoddiad wedyn o werth y Beibl. Mae’n cynnwys, meddai, y gwych a’r gwachul, ac mae ynddo brydferthwch yn ogystal â ‘lolgyboitsh llwyr’. Yn y Beibl, meddai wedyn, ceir ‘pethau adeiladol iawn i’r galon’. Ynddo ceir ‘pethau dinistriol i’r ddynoliaeth achlân hefyd’.

Mae’r gyfrol – un fechan o ran maint ond un enfawr o ran ei chynnwys – yn orlawn o onestrwydd, cignoethni ac ing. Mae yma ddatganiadau y dylid eu fframio a’u hongian mewn mannau lle gall pawb eu darllen a’u hystyried, a’r cyfan mewn ieithwedd rymus a rhywiog.

Petawn i’n feirniad Llyfr y Flwyddyn, byddwn yn cau’r gystadleuaeth nawr er mwyn arbed awduron eraill rhag mynd i’r drafferth o godi eu gobeithion.

Lyn Ebenezer

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

£6.00 -



Code(s)Rhifnod: 9781845274061
9781845274061

You may also like .....Falle hoffech chi .....