Trysorfa T. Llew Jones

Author: T. Llew Jones.

A valuable volume celebrating the rich contribution of the king of Welsh children's literature, comprising over 40 memorable treasures, being imaginary myths and stories together with magical poems by a master storyteller and poet. 55 colour and black-and-white illustrations. Reprint; first published in November 2004.

 

Awdur: T. Llew Jones.

Cyfrol werthfawr yn dathlu cyfraniad cyfoethog brenin llyfrau plant Cymru, yn cynnwys detholiadau o dros 40 o drysorau cofiadwy, yn chwedlau a straeon dychmygus ynghyd â cherddi hudolus gan gyfarwydd a bardd meistraidd. 55 llun lliw a du-a-gwyn. Adargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf yn Nhachwedd 2004.

 

I nifer o blant Cymru, ac erbyn hyn i sawl oedolyn ifanc fel fi, mae T. Llew Jones yn arwr. Trwy eiriau ei nofelau, ei storïau a’i benillion poblogaidd mae miloedd wedi cael eu swyno i ddianc i fyd arall. Dyma lyfr fydd yn rhoi cyfle i chi bori drwyddo i fwynhau darnau o’r hen ffefrynnau. Mae’n cynnwys Barti Ddu, Trysor y Môr-ladron a Tân ar y Comin a’r penillion ‘Y Storm’, ‘Sŵn’ a ‘Traeth y Pigyn’. Ac yn wir dyna syrpreis hyfryd oedd cael darllen ambell gyfraniad newydd.

Rwy’n falch iawn o weld cyfrol o’r fath. Nid yn unig i roi cyfle i rai hŷn gael dianc unwaith eto i fyd eu dychymyg, ond ar gyfer plant heddiw. Gobeithio y bydd hon yn rhoi blas o swyn arbennig T. Llew iddynt. Mae’n siŵr o fod yn fan dechrau llwyddiannus i ddenu darllenwyr newydd i brofi dawn dweud anhygoel T. Llew Jones a mynd ati i ddarllen ei nofelau.

Diolch i’r golygydd, Tudur Dylan, am ei waith anodd o ddethol ond yn arbennig am gynnwys cyfarchion plant Cymru i gawr llyfrau plant. Nid hawdd yw denu ac ysbrydoli cynifer o blant i ddarllen. Ategir yn fawr at y gyfrol trwy gyfraniad yr arlunydd Jac Jones. Ai T. Llew ei hun a welwn yn y darlun o Doctor Nac?

Dawn T. Llew Jones fel athro gwyddbwyll sy’n ei wneud yn arwr i’m gŵr ond mae ei drwyn yntau wedi bod yn y llyfr hwn yn mwynhau’r hanesion am dde Ceredigion ac yn holi sawl ‘O, wyt ti’n cofio . . .’

Y Nadolig hwn, gobeithio y cewch chithau hefyd y pleser o agor clawr y gyfrol hon, pori drwy’r perlau a chael eich swyno gan y dewin llên ei hun.

Angharad Williams

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

£14.99 -



Code(s)Rhifnod: 9781843233558
9781843233558

You may also like .....Falle hoffech chi .....