Item added to your cart:Wedi ei roi yn eich basged:
Items in your cartNwyddau yn eich basged
TotalCyfanswm: GBP
Author: Various.
A beautifully colour illustrated and entertaining collection of stories about dinosaurs by some of Wales's most popular contemporary poets and writers.
Awdur: Amrywiol.
Casgliad difyr o straeon a cherddi'n ymwneud a deinosoriaid gan rai o feirdd ac awduron cyfoes Cymru sydd oll wedi ymddiddori'n fawr mewn deinosoriaid er pan yn ifanc iawn. Cyfrol hardd yn cynnwys lluniau lliw trawiadol gan Graham Howells.
Ydech chi wedi clywed am y teulu ‘Ws’ tybed? Wedi eu gweld yn crwydro strydoedd Aberystwyth, Caernarfon neu Batagonia, hyd yn oed? Does wybod pa le y byddwch yn eu cyfarfod nesaf ... ond maent i gyd yn llechu rhwng cloriau'r gyfrol arbennig hon. Dewch i gyfarfod brachiosawrws, stegasawrws, sonorasawrws, hadnosawrws, brontosawrws a’r brenin ei hun – Tyranosawrws rex!
Cawn ddilyn hanes a helyntion y deinosoriaid o bob lliw a llun yn eu cynefin ac mewn ambell le annisgwyl arall, ac mae’r cyfan wedi ei ddylunio’n atyniadol gan Graham Howells. Dyma drysor o gyfrol i bawb sy’n ifanc ei ysbryd ac sy’n ymhel ym myd y deinosoriaid – yn gerddi a straeon o bob math gan awduron poblogaidd a chyfoes, a phob un ohonynt yn ddynion, coeliwch neu beidio! Mae llenorion megis Ifor ap Glyn, Jon Gower, Hywel Griffiths, Gwion Hallam, Llion Iwan, Ceri Wyn Jones, Ifan Morgan Jones, Aneirin Karadog, Eurig Salisbury ac Ion Thomas yn dod â deinosoriaid yn fyw unwaith eto mewn un ar ddeg o ddarnau creadigol llawn antur a chyffro.
Dyma lyfr sy’n llawn dirgelwch a rhyfeddod; llyfr i’w rannu. Na, does dim byd brawychus fel y cyfryw yma, rhyw ddeinosoriaid hynod garedig a chyfeillgar ydi'r rhain ar y cyfan, ac yn hoff o gwmni plant! O ran cynnwys mae’n addas ar gyfer pob oedran, gyda rhai straeon a cherddi yn fwy heriol na’i gilydd, gan roi cyfle i ddarllen ar y cyd a darllen dan arweiniad yn ogystal â darllen yn annibynol.
Lleolir yr hanesion ar hyd a lled Cymru a thu hwnt – lleolir rhai mewn trefi go iawn megis Aberystwyth a Chaernarfon, ac mewn adeiladau megis mewn amgueddfa – a cheir yma rai bydoedd dychmygol sy’n bodoli ar sgrin y cyfrifiadur!
Mae yma rywbeth at ddant pawb ac mae digon o hiwmor yn britho’r darnau, megis y cerddi ‘D am Deinosor’ sy’n adnodd gwych i geisio dysgu’r wyddor, neu ‘Rhyfel Cartref’ sy’n esbonio pam roedd y deinosoriaid honedig wedi diflannu o'r ddaear:
T-recs a stegosawrws,
A diplododcws pinc,
Triceratops a raptor
Sydd bellach yn extinct.
Fe’u bwriwyd nhw o’r ddaear
Nid gan ryw feteoreit,
Ond Ifan gyda’i hŵfyr
Yn gwrthod ildio’r ffeit.
Mae’r cyfan wedi ei blethu’n gyfrol amrywiol o ran genres, safbwyntiau, y digrif a’r dwys ond un peth sy’n gyffredin yw gwrthrychau’r darnau, sef y deinosoriaid. Hyfryd o delynegol ydi’r stori ‘Dechrau’r Diwedd’ sy’n fwy heriol ac at gynulleidfa hŷn efallai – deunydd cnoi cil arno. Mae'r ‘Anifail Anwes Mwya Enfawr Erioed Erioed Erioed’ wedi ei lleoli ym Mhatagonia a braf yw gweld enwau cyfarwydd ynddi ... Camwy, Hector ac ati! Os am wers wahanol i’r disgwyl fe gewch ganllawiau ar gyfer gêm gyffrous yn ‘Dyddiadur Deino’. Tybed a fydd ‘Cricosor’ yn gamp Olympaidd ryw ddydd? Mae neges bwysig yn niwedd y stori am y gwan yn gorchfygu’r cryf hefyd – Dafydd a Goliath byd y deinosoriaid!
Ydi, mae hon yn drysorfa yng ngwir ystyr y gair ... mwynhewch!
Andrea Parry
Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.