Item added to your cart:Wedi ei roi yn eich basged:
Items in your cartNwyddau yn eich basged
TotalCyfanswm: GBP
Author: Manon Steffan Ros.
Series: Cyfres yr Onnen.
A fantasy novel for readers aged 10-13 years, about a boy is drawn into a world of magic and enchantment ...
Awdur: Manon Steffan Ros.
Cyfres: Cyfres yr Onnen.
Nofel ffantasi ddarllenadwy i blant 10-13 oed am fachgen sy'n cael ei ddenu i wlad o hud a lledrith. Awn gyda Cledwyn a Siân drwy'r darlun ac ar hyd twnnel i wlad Crug. Yno cawn gwrdd â Gili Dŵ caredig - cymeriad rhychiog a moel, byr ond hynod o gryf.
Dyma’r nofel gyntaf mewn cyfres newydd, Cyfres yr Onnen; dyma hefyd nofel gyntaf hynod lwyddiannus yr awdures Manon Steffan Ros.
Byw gyda’u nain mae Cledwyn a Siân ac yng nghanol y nos, ar ddechrau gwyliau’r haf, mae rhywbeth anghyffredin iawn yn digwydd i’r ddau ohonynt. Mae’r ddau yn cael eu cymell i ddilyn llwybr gwelltog sy’n mynd â hwy drwy ganol darlun oedd yn hongian ar wal y gegin. Awn gyda’r ddau ar antur i wlad hud Crug ble y cawn gyfarfod â llu o gymeriadau a chreaduriaid lliwgar a pheryglus.
Yn syth bin ar ôl cyrraedd, mae Cled a Siân yn cael eu bygwth gan yr Abarimon – creaduriaid chwim a hynod o beryglus, ond drwy lwc mae’r hoffus Gili Dŵ wrth law i’w helpu.
Cawn ein tywys wedyn i wlad y Marach a’r Gwachell a down i adnabod Cnorc! Down hefyd i adnabod Siân a Cled a hynt a helynt eu teulu a’u magwraeth. Mae Cled yn profi cyfeillgarwch ffrind yn nghwmni Gili Dŵ ac mae hynny yn y pen draw yn newid ei fywyd.
Mae cael y cyfle i fynd i wlad ffantasïol hudolus sy'n llawn anturiaethau yn brin. Gwnewch yn fawr o’r cyfle gyda’r nofel hon, felly, ac ymgollwch!
Glenda Williams
Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.