Tommo - Stori'r Sŵn Mawr

Author: Andrew Thomas, Terwyn Davies.

The autobiography of the lively and noisy Welsh DJ Andrew 'Tommo' Thomas, in pictures and words.

 

Awdur: Andrew Thomas, Terwyn Davies.

Cyfrol yn llawn o ddarluniau a straeon difyr yn adrodd hanes y DJ bywiog a swnllyd Andrew 'Tommo' Thomas o Aberteifi, un o gyflwynwyr y prynhawn ar Radio Cymru.

 

Rwyn hoff iawn o Tommo, y sŵn mawr ar BBC Radio Cymru bob prynhawn. A dweud y gwir, rwy’n amau ei fod e’n dipyn o seléb erbyn hyn, ac mae bob amser yn ddiddorol rhoi wyneb i’r llais, ynghyd â thipyn o gefndir i'r darlledwr sydd y tu ôl i'r meic. Dyna gawn ni yn Tommo: Stori’r Sŵn Mawr, hunangofiant Andrew Paul Thomas, a rhoi iddo’i enw llawn. Cyfrol sydd mor lliwgar a byrlymus â’r cymeriad ei hun.

Mae gen i un gŵyn fach yn erbyn Tommo, sef ei fod yn ymddiheuro gormod am ei Gymraeg ac am ei dreigladau. Mae’n bryd i bobol ddechrau sylweddoli nad yw pobol pen ucha Sir Benfro a godre Ceredigion yn treiglo yr un fath â rhannau eraill o Gymru. Mae ganddyn nhw eu rheolau eu hunain sydd ddim yr un fath â rheolau John Morris-Jones. Un o Grymych yw ei dad, ac mae Tommo yntau wedi’i eni a’i fagu yn nhref Aberteifi. Dyma'n union sut y bydden i'n disgwyl iddo siarad. Mae ei iaith ar y radio ac yn y llyfr yn llawn o’r ‘wes’ a’r ‘wedd’, nodwedd arall o iaith Sir Benfro.

Wedi hynny o amddiffyniad o Tommo, mae ganddo dipyn o hanes. Gadael yr ysgol cyn gynted ag y gwasg gomautomedrai, cario’r post, cynnal discos yn Aberteifi ac yn Sbaen, torri beddau, gweithio mewn siop cigydd, ac yna dechrau darlledu ar Radio Ceredigion. Mae'n ddiddorol sylwi fod nifer o ddarlledwyr adnabyddus wedi dechrau eu gyrfaoedd yn gweithio’n ddi-dâl ar yr orsaf honno.

Mae’r darlun o sut mae’r gorsafoedd masnachol, lleol hyn yn cael eu rhedeg yn agoriad llygad, ac mae'n amlwg eu bod yn llefydd delfrydol i ddysgu’r grefft os yw’r egni a’r awydd gennych chi. Ac mae gan Tommo lond sied wair o egni a brwdfrydedd. Ar yr adeg yr unwyd gorsafoedd radio y de-orllewin – Radio Ceredigion, Radio Sir Benfro, Radio Sir Gâr, Scarlet FM a Nation Hits yn ardal Abertawe – roedd e’n gwneud pum rhaglen yr un pryd ar bum gorsaf wahanol! Ac yn gwneud y cyhoeddiadau ar Barc y Scarlets ar brynhawniau Sadwrn.

Ychwanegwch at hyn y ffaith iddo gael trawsblaniad aren, ac mae’r dyn yn rhyfeddod, gan ddod trwy'r driniaeth fel rhyw gorwynt o hwyl a sbri.

Mae'r amlwg fod Tommo bellach yn falch iawn o gael ei gyfle mawr gyda BBC Radio Cymru. Mae ei frwdfrydedd a’i gyffro yn heintus, yn y gyfrol fel ag ar yr awyr. Fe fydda i’n mwynhau ei gwmni hwyliog bob prynhawn yn fwy fyth ar ôl darllen ei hanes.

Gwyn Griffiths

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

£8.99 -



Code(s)Rhifnod: 9781848518971
9781848518971

You may also like .....Falle hoffech chi .....