Tom Davies

Sain is proud to re-release this collection of songs by the popular baritone Tom ‘Bryniog’ Davies, to celebrate the occasion of his 80th birthday in 2015. The original LP and Cassette were released in 1981.

Tracks -

01. Mab y Môr

02. I Feel the Deity Within

03. Baled Rhyfel Glyndwr

04. Song of the Soul

05. Belsasar

06. Y Cord Coll

07. I Rage

08. Mab yr Ystorm

9. Sing a Song of Sixpence

10. Brad Dynrafon.

 

 

  

Yn wreiddiol, rhyddhawyd LP a caset gan y bariton poblogaidd Tom 'Bryniog' Davies gan Sain yn 1981 - ond dyma ail-ryddhau casgliad ar CD i gyd-fynd a dathliadau ei ben-blwydd yn 80oed.

Wedi dechrau cystadlu, daeth yn fuddugol deirgwaith yn olynol yng Ngŵyl Fawr Aberteifi, ac enillodd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn 1969. Penllanw’r cystadlu oedd cipio’r Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Lliw, 1980, gyda chanmoliaeth uchel.

Mae Tom wedi teithio dramor fel unawdydd gwadd gyda chorau enwog. Aeth o’r Almaen gyda Chôr Llanddulas yn 1975, i Ganada gyda Chôr Trelawnyd yn 1976, ac yn 1980 i’r Almaen drachefn, y tro hwn gyda Chôr Meibion Rhosllannerchrugog.

Yn y blynyddoedd diwethaf, daeth i ymhoffi fwyfwy mewn canu unawdau mewn perfformiadau o weithiau’r meistri, fel Meseia, Y Greadigaeth, Samson ac Elias. Cyfeddyf iddo hefyd ddysgu llawer wrth gyd-weithio â chantorion enwog, a gwerthfawrogi eu camp a’u celfyddyd ar y llwyfan.

Oherwydd ei lais cyfoethog a’i berfformiadau gloyw, mae’n ffefryn gyda chynulleidfaoedd, a llawer o alw am ei wasanaeth; ac erys Tom Bryniog mor naturiol gyfeillgar a diymhongar ag erioed.

Traciau -

01. Mab y Môr

02. I Feel the Deity Within

03. Baled Rhyfel Glyndwr

04. Song of the Soul

05. Belsasar

06. Y Cord Coll

07. I Rage

08. Mab yr Ystorm

9. Sing a Song of Sixpence

10. Brad Dynrafon.

£9.99 -



Code(s)Rhifnod: 5016886274522
SAIN SCD2745

You may also like .....Falle hoffech chi .....