Taffia

Author: Llwyd Owen.

Popular novelist Llwyd Owen's tenth novel. Detective Danny Finch loses his job after being accused of fraud but gains employment as a security officer to 'local businessman' Pete Gibson. Danny turns a blind eye to his boss's illegal business, but when he refuses to become part of Gibson's 'business', the villain against him.

 

Awdur: Llwyd Owen.

Mae Ditectif Danny Finch yn colli ei swydd ar ôl cael ei gyhuddo o dwyll, gan golli popeth - ei swydd, ei bensiwn a'i hunan-barch. Caiff waith fel swyddog diogelwch i Pete Gibson, 'dyn busnes' lleol. Mae Danny'n cau ei lygaid i fusnes anghyfreithlon ei fòs ond, ar ôl gwrthod cyfle i fod yn rhan o 'fusnes' Gibson, mae'r dihiryn yn cynllwynio yn ei erbyn.

 

Gyda themâu sy’n cynnwys twyll (ar lefel bersonol a sefydliadol), trais a dial, perthnasau, edifar a methiant, dyma nofel anturus fydd yn cyffroi darllenwyr ac yn eu darbwyllo i gadw ati i droi’r tudalennau.

Bydd Danny Finch yn adnabyddus i rai o ddarllennwyr nofelau eraill Llwyd Owen, wrth iddo ymddangos fel cymeriad ymylol yn Mr Blaidd a Heulfan.


Dyma ddegfed nofel gan yr awdur Llwyd Owen o Gaerdydd - ai wythfed yn y Gymraeg. Mae Llwyd Owen bellach wedi sefydlu ei hun fel un o awduron Cymraeg cyfoes mwyaf adnabyddus y wlad ac mae ei waith yn apelio i ddarllenwyr o bob oed. Fel cyn-enillydd Llyfr y Flwyddyn am ei nofel Ffydd Gobaith Cariad (2007), bydd nofel ddiweddaraf yr awdur hwn yn siwr o lenwi bwlch yn y farchnad lenyddol Gymreig gan gynnig rhywbeth gwahanol i ddarllennwyr Cymru. 

£8.99 -



Code(s)Rhifnod: 9781784612498
9781784612498

You may also like .....Falle hoffech chi .....