Swnami, Du a Gwyn

Tracks –

01. Y Nos

02. Gwreiddiau

03. Aros

04. Pen y Daith

05. Du a Gwyn.

 

 

Mae’n syndod weithiau pa mor gyfarwydd y gall rhywun ddod gyda band, trwy eu gwaith caled, gigio di-baid a’u gallu i gyfansoddi caneuon sy’n cydio’r dychymyg - a hynny heb fawr ddim cynnyrch i’w henw. Dim ond dwy sengl sydd yn siop Sŵnami ar hyn o bryd, ond mae’r enw yn gwbl gyfarwydd trwy Gymru ben baladr, a’r torfeydd yn medru canu eu set gyfan. Diolch byth felly fod yr EP yma 'Du a Gwyn’ wedi gweld golau dydd - does wybod pa uchelfannau sydd o fewn cyrraedd y band bellach.

Ers ffurfio yn 2010, mae sŵn Sŵnami wedi tyfu’n enfawr. Meddai Lewis Williams, drymiwr; “Roedda ni wedi dod o hyd i’n traed trwy weithio gyda Rich (Stiwdio Fferlas) o’r blaen - proses naturiol oedd mynd yn ôl ato, gan wthio’n hunain ymhellach. Roedd hi’n fwriad penodol ganddo ni i gyfleu’r un sŵn a bandiau indi roc tebyg i ‘Two Door Cinema Club’, ‘Foals a Phoenix’, ac ar ôl gwaith caled iawn yn cyd-gynhyrchu, ryda ni’n hapus ein bod ni wedi dal egni presennol Sŵnami ar yr EP yma.”

Yn wahanol i gloriau lliwgar y senglau ‘Eira’ a ‘Mynd a Dod’, yn lythrennol felly, mae clawr yr EP yn ddu a gwyn, a’r cynnwys yn brawf y gall y band droedio tiroedd tywyllach nag o’r blaen - yn thematig ac yn gerddorol. Mae llawer o’r caneuon yn trin a thrafod bod rhwng dau le - y simsanu rhwng cwestiynau ac atebion - y du a’r gwyn. Ond mae yma anthemau mawrion, a’r gân sy’n benthyg ei henw i’r EP yn ysgwyd gyda grym Sŵnami.

Sŵnami enillodd y wobr ‘Sesiwn C2 y flwyddyn’ ac ‘Y grŵp a ddaeth i amlygrwydd’ yng ngwobrau RAP 2012, maen nhw wedi perfformio mewn gwyliau mawrion megis Wakestock, wedi eu dewis fel un o fandiau ‘BBC Introducing’, ac wedi eu chwarae sawl tro ar raglen Jen Long ar Radio 1. Hyn oll a mwy, cyn i guriadau carlamus ‘Du a Gwyn’ guro ar glustiau unrhyw un. Disgrifia’r cyflwynydd Huw Stephens (Radio Cymru a Radio1) Sŵnami fel “un o fandiau mwyaf cyffrous Cymru gyda chaneuon cynhyrfus a balch. Mae ganddynt barodrwydd heintiedig i gyfansoddi tiwns gitâr cryf a diddorol.”

Traciau –

01. Y Nos

02. Gwreiddiau

03. Aros

04. Pen y Daith

05. Du a Gwyn.


    £5.99 -



    Code(s)Rhifnod: 5055162140205
    COPA CD020

    You may also like .....Falle hoffech chi .....