Sol a Lara

Author: Tony Bianchi.

A novel full of intrigue about the effect one person's life may have on others, written by a prize-winning author.

 

Awdur: Tony Bianchi.

Nofel gynhyrfus, llawn dirgelion, am yr effaith y gall bywydau pobl gael ar eraill. Dyma nofel newydd gan gyn-enillydd Y Fedal Ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen.

Mae Lara'n byw yng ngorllewin Cymru gyda'i mam a'i hiraeth am ei chariad coll. Ni welodd hwnnw ers pum mlynedd, a dyw e ddim yn ateb ei negeseuon. Ond mae Lara'n gwrthod anobeithio.


Draw yng Nghaerdydd, mae Sol yn carco plant ei gariad yntau. Yna mae'n clywed rhywun yn cicio'r drws ac yn gweiddi'i enw. A dyw e ddim yn gwybod ble i droi.  
O fewn ychydig wythnosau, mae Sol a Lara'n dod i adnabod ei gilydd yn well nag y byddai neb wedi'i ddisgwyl.

£8.99 -



Code(s)Rhifnod: 9781848518018
9781848518018

You may also like .....Falle hoffech chi .....