Sirenian Singers, Christus Natus

Tracks –

1.Weihnachten

2.O Magnum Mysterium

3: Sussex Carol

4: Si-Lw-Li

5: Hodie Christus Natus Est

6: The Three Kings

7: In the Bleak Midwinter

8: Geni Crist

9: Tua Bethlem Dref

10: Sir Christemas

11: O Magnum Mysterium

12: Te Laudamus

13: Jesus My Jesus

14: Christmas Medley (Deck the Halls/Jingle Bells/I Saw Three Ships/Ding Dong Merrily on High).

 

 

Gwnaeth y côr hwn o tua hanner cant o leisiau, sy’n tynnu ei aelodaeth o ardal Wrecsam, enw mawr iddo’i hun yn rhyngwladol. Fe’i cydnabyddir am ei dechneg ragorol a’i ddawn i gyfathrebu, ac mae’n enwog mewn sawl gwlad am ei arddull arloesol a deinamig. Cred yn gryf mewn cadw cymeriad ei repertoire, sy’n amrywio o gyfnod y Dadeni i’r cyfoes, ac y mae’n canu yn yr iaith a’r arddull sy’n addas i’r gwaith a berfformir, a thrwy hynny apelio at gynulleidfaoedd o bob chwaeth.

Tystiolaeth o’i agwedd flaengar yw ei fynych lwyddiannau mewn cystadlaethau. Enillodd wobrau cyntaf yn Llangollen - y côr cyntaf i ennill teitl “Côr y Byd” yn 1998 - Gwyl Elgar, Gwyl Cadeirlan Caerwrangon, yr Eisteddfod Genedlaethol a Gwyl Gorawl Ryngwladol Riva del Garda yn yr Eidal. Yn yr olaf, cyflwynwyd i’r côr anrheg y rheithgor am ei berfformiad a’i gyfraniad i gerddoriaeth gyfoes. Fe’i gwahoddwyd i gyfrannu i raglenni niferus ar y radio a theledu ac i gyngherddau gydag artistiaid fel Bryn Terfel, Rebecca Evans, Lesley Garrett, Cerddorfa’r Halle, Camerata Manceinion a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae’r Sireniaid yn llysgenhadon cerddorol cyson o dan nawdd y Cyngor Prydeinig, ac fe’u gwahoddir i berfformio mewn amrywiaeth o wyliau a chystadlaethau rhyngwladol. Cawsant ran flaenllaw yn nathliadau canmlwyddiant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gan gynnwys cyngerdd yng nghwmni Tywysog Cymru.

Traciau –

1.Weihnachten

2.O Magnum Mysterium

3: Sussex Carol

4: Si-Lw-Li

5: Hodie Christus Natus Est

6: The Three Kings

7: In the Bleak Midwinter

8: Geni Crist

9: Tua Bethlem Dref

10: Sir Christemas

11: O Magnum Mysterium

12: Te Laudamus

13: Jesus My Jesus

14: Christmas Medley (Deck the Halls/Jingle Bells/I Saw Three Ships/Ding Dong Merrily on High).

£5.99 - £9.99



Code(s)Rhifnod: 5016886256429
SAIN SCD2564

You may also like .....Falle hoffech chi .....