Sian Wyn Gibson, Suo Gan

Dyma albym cyntaf y mezzo soprano o Wynedd, sydd yn cyflwyno casgliad gwych o ffefrynnau rhyngwladol - un ar bymtheg ohonynt i gyd! Cynhyrchydd a chyfeilydd yr albym yw Annette Bryn Parri.

Mae'r arlwy amrywiol yn cynnwys dwy gân gan Aaron Copland, Long Time Ago ag At The River, a cheir "clasuron" Cymreig megis Tosturi Duw, Gweddi'r Arglwydd, Cwm Pennant, a'r hwiangerdd Suo Gân. Ar gyfer y casgliad yma o'i ffeffrynnau, mae Siân hefyd wedi dewis Non so piu cosa son ("Le nozze di figaro") a Una voce poco fa ("Il Barbiere di Siviglia" Rossini), darn gan Brahms, Vergebliches Ständchen a dwy gân Gymreig allan o "Caneuon Dwy Fil - Hyn na'r Coed a Cilfan y Coed.

Cafodd Siân ei magu ym mhentref Deiniolen ger Caernarfon, ardal sydd â thraddodiad cerddorol cryf yn perthyn iddi ac yn fuan iawn daeth i amlygrwydd fel cantores ar lwyfan Eisteddfodau. Cwblhaodd ei haddysg gerddorol yng Ngholeg Cerdd Manceinion gan ennill sawl ysgoloriaeth. Bu'n aelod o gwmnïau opera D'oyly Carte ac Opera North yn Leeds a chwareuodd nifer o rannau operatig blaenllaw. Dychwelodd i Opera North i recordio rhan Fenws gyda chwmni D'oyly Carte ar label Sony.

Ar hyn o bryd mae Siân yn canolbwyntio ar waith Oratorio a chyngerdd, ac mae'n rhoi gwersi canu yn ei chartref ger Caernarfon ac yng Ngholeg Menai, ac mae'n fam i ddau o blant ifanc, Catrin a Sion!

Traciau -

01 - Cwm Pennant

02 - Gweddi’r Arglwydd

03 - La violette

04 - Long time ago

05 - At the river

06 - Vergebliches Ständchen

07 - Wiegenlied (Lullaby)

08 - Non so piu cosa son

09 - Adre’n ôl (Bring him home)

10 - Hyn na’r coed

11 - Cilfan y coed

12 - Suo gân

13 - Wishing you were here again

14 - Yr alarch

15 - Tosturi Duw

16 - Una voce poco fa.

£5.99 -



Rhifnod: 5016886231921
SAIN SCD2319

Falle hoffech chi .....