Gareth Glyn, Welsh Incident

Jonathan Pryce heads a stellar list of performers on a double album of orchestral music by the celebrated Anglesey composer Gareth Glyn. Movie superstar Jonathan Pryce (Pirates of the Caribbean, Tomorrow Never Dies) tops the list of guest performers on a double album of popular orchestral music by the acclaimed composer from Anglesey, Gareth Glyn, released to celebrate his 60th birthday. Jonathan narrates the title track, where he’s joined by double-bassist Dominic Seldis (from BBC 2’s Maestro). Also on the bill are trumpeter Philippe Schartz and organist Jane Watts, joining the BBC National Orchestra of Wales and the Royal Ballet Sinfonia in a wide-ranging selection of pieces including the cinematic Enduring City, commissioned to celebrate the 300th anniversary of New Bern, North Carolina.

Also on the bill are the Royal Ballet Sinfonia, conducted by Gavin Sutherland and Julian Bigg, who play music on the lighter side - like the Little Suite for Strings, which includes a ‘Hoedown’ acclaimed as being “better than Copland’s” in a recent LSO performance (Classic FM listeners will love this track), and Cariad, a sequence of beautiful Welsh folksongs on the theme of love. Together with the colourful Stag’s Leap and the witty A Night at the Opera, these captivating works by Gareth Glyn are sure to appeal to a wide range of listeners. Gareth Glyn has made Anglesey his home since 1978, an island whose history, mythology and landscape have been important influences on his work as a composer. His works have been commissioned and performed by, among others, the London Symphony Orchestra, the North Carolina Symphony, the BBC Concert Orchestra, the Strasbourg Philharmonic, the Ulster Orchestra, the BBC National Orchestra of Wales, I Musici de Montréal and the Royal Ballet Sinfonia, as well as by eminent soloists and choirs. His music has also been widely broadcast by radio stations in many parts of the world.

Tracks -

1: Noson yn yr Opera / A night at the Opera

2: Welsh Incident - Preamble / Rhagymadrodd

3: Welsh Incident - But that was nothing

4: Welsh Incident - Describe just one of them

5: Welsh Incident - I was coming to that

6: Welsh Incident - They came out on the sand

7: Dinas Barhaus - Enduring City - John Lawson

8: Dinas Barhaus - Enduring City - Christoph von Garaffenrie

9: Dinas Barhaus - Enduring City - Tryon

10: Dinas Barhaus - Enduring City - Conflict / Gwrthdaro

11: Dinas Barhaus - Enduring City - Reconciliation and Beauty

12: Dinas Barhaus - Enduring City - Confidence / Hyder

13: Microncerto

14: Cariad - Dacw 'Nghariad / There's my Sweetheart

15: Cariad - Bugeilio'r Gwenith Gwyn / Watching the White Wheat

16: Cariad - Mae 'Nhariad i'n Fenws / My Love is a Venus

17: Cariad - Y Deryn Pur / The Pure Bird

18: Cariad - Tra Bo Dau / While Two Remain

19: Cariad - Hen Ferch.

 

 

Mae’r seren ffilmiau ryngwladol Jonathan Pryce (Pirates of the Caribbean, Tomorrow Never Dies) ar frig rhestr o berfformwyr disglair ar albwm ddwbl o gerddoriaeth gerddorfaol boblogaidd gan y cyfansoddwr blaenllaw o Sir Fôn, Gareth Glyn, gafodd ei chyhoeddi i ddathlu’i benblwydd yn 60.

Jonathan Pryce yw’r llefarydd ar y trac teitl, lle mae’n cael cwmni’r athrylith ar y bas dwbl Dominic Seldis (o Maestro, BBC-2). Hefyd ar y disgiau yma fe glywch yr utgornydd Philippe Schartz a’r organydd Jane Watts, yn ymno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a’r Royal Ballet Sinfonia mewn dewis eang o ddarnau gan gynnwys Dinas Barhaus, gwaith sinematig ei naws gafodd ei gomisiynu i ddathlu tri chanmlwyddiant dinas New Bern, Gogledd Carolina.

Mae Welsh Incident – albwm ddwbl sydd wedi’i chyhoeddi i nodi 60fed penblwydd y cyfansoddwr enwog o Fôn Gareth Glyn – yn llawn i’r ymylon o enwau adnabyddus. Jonathan Pryce yw llefarydd y trac teitl, sef y recordiad première-byd o osodiad o gerdd eiconig (a doniol) Robert Graves am greaduriaid arallfydol ar draeth Cricieth. Yn ymuno ag ef mae athrylith ar y bas dwbwl gafodd ei alw’n “Simon Cowell cerddoriaeth glasurol” yn sgil ei sylwadau fel beirniad ar y gyfres BBC-2 Maestro - Dominic Seldis. Ef hefyd yw’r unawdydd yn Microncerto, darn sy’n crynhoi consierto cyfan i lai na phum munud o dân gwyllt cerddorol! Mae’r amrywiaeth cerddoriaeth, oll yn arddull agos-atoch Gareth Glyn, yn rhyngwladol - o Fôn (yr organydd Jane Watts sy’n tynnu’r stopiau i gyd allan yn Gwylmabsant) i ehangder Gogledd Carolina, gaiff ei bortreadu yn y gwaith panoramig Dinas Barhaus gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC dan arweiniad Grant Llewellyn, a’r Consierto i Utgorn, darn sy’n galw am allu eithriadol y trwmpedwr rhyfeddol o Lwcsembwrg, Philippe Schartz. Yn ymddangos hefyd mae’r Royal Ballet Sinfonia, dan arweiniad Gavin Sutherland a Julian Bigg, sy’n perfformio cerddoriaeth o naws ysgafnach, fel y Gyfres Fechan i Linynnau, sy’n cynnwys ‘Hoedown’ gafodd ei farnu’n “well nag un Copland” mewn perfformiad diweddar gan yr LSO, a Cariad, cadwyn o ganeuon gwerin cariad hudolus Cymru. Ychwanegwch y darn lliwgar Llam Carw a’r agorawd ffraeth Noson yn yr Opera, a dyna i chi amrywiaeth o weithiau hudolus gan Gareth Glyn sy’n sicr o apelio at ystod eang o wrandawyr. Ganed Gareth Glyn ym Machynlleth, ond symudodd ym 1978 i Ynys Môn, sydd, drwy ei thirlun, hanes a chwedloniaeth, wedi bod yn ddylanwad allweddol ar ei waith fel cyfansoddwr. Cafodd ei weithiau eu comisiynu a’u perfformio gan, ymhlith eraill, Gerddorfa Symffoni Llundain (yr LSO), Cerddorfa Gyngerdd y BBC, Cerddorfa Symffoni Gogledd Carolina, Cerddorfa Ffilharmonig Strasbwrg, Cerddorfa Ulster, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, I Musici de Montréal a Cherddorfa’r Bale Brenhinol, yn ogystal ag unawdwyr a chorau blaenllaw; mae ei gerddoriaeth wedi cael ei darlledu gan orsafoedd radio ledled y byd.

Traciau -

1: Noson yn yr Opera / A night at the Opera

2: Welsh Incident - Preamble / Rhagymadrodd

3: Welsh Incident - But that was nothing

4: Welsh Incident - Describe just one of them

5: Welsh Incident - I was coming to that

6: Welsh Incident - They came out on the sand

7: Dinas Barhaus - Enduring City - John Lawson

8: Dinas Barhaus - Enduring City - Christoph von Garaffenrie

9: Dinas Barhaus - Enduring City - Tryon

10: Dinas Barhaus - Enduring City - Conflict / Gwrthdaro

11: Dinas Barhaus - Enduring City - Reconciliation and Beauty

12: Dinas Barhaus - Enduring City - Confidence / Hyder

13: Microncerto

14: Cariad - Dacw 'Nghariad / There's my Sweetheart

15: Cariad - Bugeilio'r Gwenith Gwyn / Watching the White Wheat

16: Cariad - Mae 'Nhariad i'n Fenws / My Love is a Venus

17: Cariad - Y Deryn Pur / The Pure Bird

18: Cariad - Tra Bo Dau / While Two Remain

19: Cariad - Hen Ferch.

£5.99 - £9.99



Code(s)Rhifnod: 5016886265322
SAIN SCD2653

You may also like .....Falle hoffech chi .....