Rhyw LUN o Hunangofiant

Author: Gareth Owen.

A full colour volume tracing the life and work of artist Gareth Owen through various artistic projects and exhibitions.

 

Awdur: Gareth Owen.

Cyfrol liw llawn gan yr arlunydd Gareth Owen yn olrhain ei fywyd, ei waith a'i weithgarwch artistig drwy wahanol brosiectau ac arddangosfeydd.

Plannwyd y syniad am y gyfrol hon pan sylweddolodd Gareth Owen y gallai adrodd hanes ei fywyd trwy gyfrwng ei weithiau celf. Ynddi ceir cipolwg ar ei ieuenctid yn Llanuwchllyn, ei daith drwy’r coleg cyn dychwelyd i Lanuwchllyn i sefydlu teulu, ac yna ymgartrefu yn Eglwysbach, Dyffryn Conwy.
Mae’i brofiadau ym myd celf yn cynnwys gwaith cynllunydd i sioeau Cwmni Theatr Maldwyn a chrwydro Ffrainc a mannau heulog eraill gyda’i lyfr braslunio.
Mae rhan olaf y gyfrol yn canolbwyntio ar ei brosiectau celf sy’n adlewyrchu’i gefndir diwylliannol Cymreig. Yn ‘Gair a llun’: y berthynas rhwng gair a delwedd; yn ‘Cysgod y Capel’: dylanwad a heriau ei fagwraeth anghydffurfiol Cymreig. Mae ‘Tri yn Un’ yn ymdrin â materion mwy amwys, megis treiglad amser, traddodiad ac ymateb i farddoniaeth. Roedd y prosiect ‘Llanuwchllyn’ eto yn delio â dylanwad ei fagwraeth. Cyfuniad o englynion o’i waith ei hun a delweddau yw cynnwys ei arddangosfa ‘Engluniau’.
Oherwydd natur fyrhoedlog llawer o’i ddelweddau mae’r gyfrol hon yn gyfle delfrydol i’w rhoi ar gof a chadw.

 

£10.00 -



Code(s)Rhifnod: 9781845276126
9781845276126

You may also like .....Falle hoffech chi .....