Rhyw Flodau Rhyfel

Author: Llŷr Gwyn Lewis.

A book about history, war and travel by author, bard and lecturer Llŷr Gwyn Lewis. This is a perfect blend of fact and fiction and focuses mainly on memory and how we commemorate. Through biographical anecdotes, travel essays, photographs, diary extracts and literature we accompany the author on a journey between stir and slumber on the paths of memory and imagination.

 

Awdur: Llŷr Gwyn Lewis.

Llyfr am hanes, rhyfel a theithio gan yr awdur, y bardd a'r darlithydd Llŷr Gwyn Lewis. Dyma blethiad hyfryd o ffaith a ffuglen a'i chanolbwynt ar y cof a sut yr ydym ni'n coffáu. Trwy bytiau cofiannol, ysgrifau taith, ffotograffau, dyddiaduron, cofnodion a llenyddiaeth cawn gydgerdded â'r awdur rhwng cwsg ac effro ar hyd llwybrau'r cof a'r dychymyg.

 

Mae yna dipyn o ddweud ar glawr y gyfrol hon – ‘Campwaith arloesol ac aeddfed’ medd y broliant. Ond tybed a oes perygl fod ieithwedd felly’n gallu troi’n ystrydeb, gan effeithio’n ddiangen ar ein disgwyliadau ni fel darllenwyr, cyn i ni ddechrau bodio'r gyfrol.

Yn fwriadol, nid edrychais ar gefn y llyfr, a hynny er mwyn i’r awdur ei hun gael cyfle i ddylanwadu ar fy marn yn hytrach na’r broliannau, a dwi’n falch o fod wedi gwneud hynny.

Bron ar hap, cafodd yr awdur afael ar bentwr o bapurach am hen ewythr iddo a fu farw ar faes y gad yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac wrth ddod o hyd i wybodaeth am Yncl John, down hefyd i wybod llawer am gymeriad yr awdur. Mae’n amlwg ei fod yn berson sy'n benderfynol o fynd i’r afael â haenau gwirioneddau, a’r ffordd y derbyniwn gymaint o ffeithiau a gwybodaeth, heb gwestiynu eu dilysrwydd.

Ar adegau, roeddwn i’n teimlo mai darllen ffuglen yr oeddwn gan fod yr arddull yn un storïol – fel nofel, bron. Ond mae gwirionedd y straeon go iawn a’r myfyrio a’r pendroni dros nifer fawr o bynciau dyrys a chymhleth yn taro’r darllenydd yn gyflym. Trwy’r ‘stori’ ceir yr awdur yn ymgodymu ag ef ei hun am ‘werth’ ymladd a rhyfela trwy’r oesoedd, gan glymu hynny’n effeithiol iawn â'r ymladd presennol yn Syria.

Yn ogystal â hynny, a’r ysfa yma i ddysgu mwy am John, cawn lawer iawn o hanesion am yr awdur yn crwydro’r Cyfandir ar ei ben ei hun, gyda’i deulu a chyda chyfaill iddo ar eu hantur fawr rhwng cyfnod ysgol a choleg. Down i wybod am ffeithiau difyr ac atgofion cynnes y bardd o nifer o wahanol lefydd y bu’n ymweld â hwy. Weithiau mae’r pytiau’n ysgafn ac yn darlunio dyn ar ei brifiant; yn yfed ac yn ysmygu gyda’r gorau, ac ar adegau eraill yn ddwys a difrifol wrth i stori neu atgof droi at fyfyrdod arall am ryfel a’i deimladau personol am bwnc sydd y tu hwnt i’w brofiad.

Ond mae yma fwy na hynny hefyd. Cawn fyfyrdodau ar Gymru a Chymreictod, gyda’i siwrneiau chwithig i fro mebyd ei nain a’i daid yn rhyw fath o ddrych o ddirywiad y gymdeithas Gymreig yr oedden nhw’n rhan ganolog ohoni yn ardal Llanfyllin. Sylwa pa mor gynyddol amherthnasol yw’r ardaloedd hynny iddo ef erbyn hyn, er gwaethaf eu pwysigrwydd yn ei orffennol.

Cawn hefyd ymdriniaeth o lenyddiaeth Gymraeg a Saesneg, yn cyfeirio at filwyr a rhyfeloedd gan amlaf, a chyfeiriadau at Saunders Lewis, Guto’r Glyn, Hedd Wyn ac Yeats. Ond mae cyfeiriadaeth hefyd at y genetegydd Steve Jones a down yn ôl o hyd at theori entropi Erwin Schrödinger a’r syniad paradocsaidd fod angen anhrefn i greu trefn. Drwy’r cwbl, cawn y teimlad na fydd Llŷr Gwyn Lewis yn gallu cau pen y mwdwl ar y stori yma tan iddo ymweld â Syria, sydd yn amhosibl ar hyn o bryd, wrth gwrs.

Mae’r awdur eisoes yn adnabyddus fel bardd a does dim syndod fod cynnwys y gyfrol yn rhywiog a safonol, er yn taro rhywun fymryn yn hen ffasiwn ar adegau, o gofio oedran yr awdur. Trueni fod ambell lun yn rhy dywyll i werthfawrogi’n llawn ei arwyddocâd.

Darllenwch y gyfrol ac fe gewch fwynhad a sawl testun trafodaeth, dwi’n siŵr.

Hefin Jones

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. 

£8.95 -



Code(s)Rhifnod: 9781847718815
9781847718815

You may also like .....Falle hoffech chi .....