Gwibdaith Hen Frân, Yn ol ar y Ffordd

GHF’s fans from all parts of Wales will be dancing in the streets as their latest album ‘Yn ôl ar y ffordd’ hits the shops - full of zany humour, telling the tales of rural characters, and the personal stories of the five members of this unique band.

There have been personnel changes - Paul Thomas and Robi Buckley have left and Ieuan Williamson, Gary Richardson and Justin Davies have stepped into the breach. Phil explains that this is part of the reason for the new album: “We were very keen to make a new album to keep the momentum going, and to prove that our unique style is alive and well”. And ‘Yn ôl ar y Ffordd’ certainly does that, filled to the brim with their clever catchphrases and quirky humour, and fun songs to warm the heart like their tribute to “Balŵ”, the Welsh version of the lovable Jungle Book character. And all to the lively sound which we have come to associate with Gwibdaith - an astonishing mixture of folk, indie, folk-rock, country and bluegrass.

The band have invited musical guests to add to their own talents - Jenn Williams on fiddle, and Edwin Humphreys on sax, horn, clarinet and tuba. But although the bands have kept true to their own style, the new members have naturally brought their own respective elements to this album. For the first time, there is a track in English, as Gary pays homage to George Formby and George Harrison with Mrs. Wu. Phil explains further ” There is a wide range of songs on this album, and although we have kept true to our own brand, and kept close to the style of our first album Cedors Hen Wrach, new branches have grown on the tree, and the band shows that it is still evolving”. So three years after their last album Llechan Wlyb, Gwibdaith prove that they are definitely “back on the road”, and look forward to touring Wales with their new songs over the next months, and hopefully bring a smile to people’s faces in these dire times.

Tracks -

1: Yn ôl ar y Ffordd

2: Byd yn dy Law

3: Yr Un Lle

4: Neid i Fewn

5: Balŵ

6: Wastio Awr

7: Mrs Wu

8: Ar y Wagan

9: Talcen Hefin Pritchard

10: Cariad, Gonestrwydd a Pharch

11: Haul, Haul, Haul

12: Cae Tatws

13: Wil yn ei Wely

14: Meicrowêf.

 

 

Roedd Cymry penbaladr yn llawenhau pan ddaeth pedwerydd albwm y grŵp gyrraedd y siopau - mae ‘Yn ôl ar y ffordd’ yn gasgliad llawn hiwmor, direidi a gwallgofrwydd sy’n adrodd hynt a helynt cymeriadau unigryw cefn gwlad Cymru a straeon personol, emosiynol a doniol y pum aelod sy’n creu Gwibdaith Hen Frân.

Yn ddiweddar mae yna fynd a dod wedi digwydd yn aelodaeth y band - Paul Thomas a Robi Buckley wedi mynd a thri newydd, Ieuan Williamson, Gary Richardson a Justin Davies wedi dod i lenwi’r bwlch a dyma un o’r rhesymau tu cefn i’r albwm newydd yma fel yr esbonia Phil. “Oedden ni’n awyddus i wneud albwm newydd i gadw’r apêl i fynd fel petai gan gadw’n driw i’n steil unigryw ni”. Ac mae Yn ôl ar y Ffordd yn barhad o steil yr albyms cynt gyda digonedd o’r hyn mae Gwibdaith yn ei wneud orau sef creu llinellau bachog, cofiadwy fel ‘meicrowêf mae’n amser rêf’, canu dychan tafod-yn-boch am Dalcen Hefin Pritchard a hanes doniol Balŵ y cymeriad hoffus o’r Jungle Book a’r teimlad braf o fradu amser yn Wastio Awr.

Ac wrth gwrs hyn oll i gyfeiliant sain adnabyddus y grŵp, sy’n llwyddo i greu cyfuniad rhyfeddol o gerddoriaeth werinol, indi, roc gwerin, gwlad a ‘bluegrass’. Mae’r band wedi gwahodd cyfraniadau gan offerynwyr gwadd ar ambell i drac. Ceir cyfraniad ar y ffidil gan Jenn Williams ac Edwin Humphreys - aka Yr Arglwydd Snedly - ar y sacsoffon, corn, clarinét a’r tiwba ac mae Edwin wedi bod yn ffrind da i’r band gan iddo gyfrannu ate Edwin yn ffrind dros y blynyddoedd gan ei fod wedi cyfrannu ar bob un o’r albyms erbyn hyn. Ond er bod Yn ôl ar y Ffordd yn glynu yn reit glos at steil yr albyms cynt mae aelodaeth newydd y band wedi dod a naws ychydig bach yn wahanol i sŵn a’r steil ac am y tro cyntaf ceir cân Saesneg gan Gary ar yr albwm sef Mrs Wu sy’n deyrnged i George Formby a George Harrison. Fel yr eglura Phil eto “mae yna amrywiaeth eang ar yr albwm, ac mi ydan ni wedi trio cadw at ein gwreiddiau o ran recordio yn steil ein halbwm cyntaf Cedors Hen Wrach ond mae yna ganghennau newydd wedi tyfu ar y goeden a datblygiad amlwg i’w glywed fel grŵp’, esboniai Phil. 

Traciau -

1: Yn ôl ar y Ffordd

2: Byd yn dy Law

3: Yr Un Lle

4: Neid i Fewn

5: Balŵ

6: Wastio Awr

7: Mrs Wu

8: Ar y Wagan

9: Talcen Hefin Pritchard

10: Cariad, Gonestrwydd a Pharch

11: Haul, Haul, Haul

12: Cae Tatws

13: Wil yn ei Wely

14: Meicrowêf.

£4.99 - £9.99



Code(s)Rhifnod: 5055162100353
RASAL CD035

You may also like .....Falle hoffech chi .....