Item added to your cart:Wedi ei roi yn eich basged:
Items in your cartNwyddau yn eich basged
TotalCyfanswm: GBP
Author: Eirug Wyn.
A lively novel about the escapades of a crew of Manchester United football supporters as they try to go to a football game at Old Trafford although they have been banned from doing so. A sequel to United!; for 12-15 year-old readers. First published in 2001.
Awdur: Eirug Wyn.
Nofel fywiog am helyntion criw o gefnogwyr tîm pêl-droed Manchester United wrth iddynt geisio mynychu gêm bêl-droed yn Old Trafford er iddynt gael eu gwahardd rhag gwneud hynny. Dilyniant i United!; i ddarllenwyr 12-15 oed. Cyhoeddwyd gyntaf yn 2001.
Dwi mor falch i mi ddarllen y nofel fer hon – mi chwarddais ac mi chwarddais wrth ei darllen. Er mai nofel am fechgyn ym mlwyddyn deuddeg ydi hi, ac wedi’i hanelu at bobl ifanc o’r un oedran, cefais i yn fy ugeiniau hwyr gryn flas arni! Dyma’r nofel berffaith i hogiau – yn llawn ffwtbol a Man U, cambihafio, rhechu, ysgol, cael y gorau ar athrawon a thrio deall merched.
Y prif gymeriad hoffus yw Dingo – bachgen sy’n gymeriad a hanner, yn diddanu’i gyd-ddisgyblion ond sydd eto â chalon feddal tu hwnt. Ei arwyddair ef, fel ag y dywed yn un man, yw ‘Os na wnei di drio yn y byd ’ma, ei di i nunlla’. Ac arwr y darllenydd yn sicr yw Dingo, gyda’i ddyfeisgarwch, ei ffraethineb a’i galon feddal. Prawf o’m hoffter tuag ato oedd i’r chwerthin droi’n grefftus tu hwnt yn ddigon trist yn y diwedd pan gaiff ddamwain, ond deil yr hen Dingo drwy’r cyfan i fod yn arwr o’r iawn ryw.
Dyma nofel sydd â’i stori atyniadol yn rhedeg yn hynod o esmwyth a chyflym, a’r iaith a ddefnyddir i’w chyfleu yn ddiddanwch ynddi ei hun Mae’r Gymraeg yn ei helfen yma, o ymadroddion slic megis ‘tyff tartan’ a ‘Mwnci Nel’, i chwarae gwych ar eiriau a phriod-ddulliau’r Gymraeg, megis:
‘Taro tra bo’r haearn yn boeth,’ meddai Wayne ...
‘Naci!’ atebodd Dingo fel bwlat. ‘Nid taro’r haearn tra bo’n boeth, ond gwneud yr haearn yn boeth drwy daro!’
A cheir yma hyd yn oed chwarae ar emynau Cymraeg: ‘Nid wy’n gofyn bywyd moethus, Cwstard wy na phwdin reis; Gofyn rwyf am sws fach sydyn, Hefo hogan Mistar Price...’
Efallai y bydd rhai rhieni ac athrawon yn cael trafferth derbyn ambell air coch yn y gyfrol, ond i mi mae’n ychwanegu’n hollol gredadwy at realaeth y nofel gan mai dyma’n wir sut y mae bechgyn ifainc yn siarad, a bydd yn fodd i helpu i ddenu’r darllenwyr.
Gwenllïan Dafydd