Wedi ei roi yn eich basged:
Nwyddau yn eich basged
Cyfanswm: GBP
Ffurfiwyd Côr y Phoenix yn 2007 gan grwp o ddynion oedd am symud canu corawl Cymru ymlaen ar gyfer cynulleidfaoedd y dyfodol. Roedden nhw’n benderfynol o ehangu’r repertoire a chanu trefniannau newydd, ac felly gofynwyd i Siân Pearce fod yn Gyfarwyddwr Cerdd oherwydd ei galluoedd fel arweinydd, a’i hagwedd flaengar ac arloesol. Ers hynny, mae’r côr ifanc wedi gweithio’n galed ar ddatblygu rhaglen newydd, ac y mae eu hagwedd wedi denu nifer o aelodau newydd i’w rhengoedd. O ganlyniad, mae’r Phoenix yn gwneud enw iddynt eu hunain fel côr brwdfrydig a deinamig, gydag amrywiaeth cyffrous o’r traddodiadol a’r newydd yn eu rhaglen.
Daw teitl yr albym gyntaf hon o gân y Queen “Don’t stop me now”, a gyflwynwyd i’r Phoenix gan y trefnydd, gan fod yr ymadrodd “Having a good time” yn crynhoi holl agwedd y côr at eu celfyddyd.
Traciau -
01. Big Girl (You are Beautiful)
02. Calon Lân
03. Heal the World
04. Praise
05. Rhythm of Life
06. Don't Stop Me Now
07. Gwahoddiad
08. You Were My Dance
09. Mack the Knife
10. Total Eclipse of the Heart
11. Rule the World
12. Cwm Rhondda.