Rhys Meilyr, Rhoi'r Wen yn Ol

Rhys Meilyr - English and Welsh favourites sung by the Anglesey treble.


This is Rhys’ second album, following closely on the success of his first. Both have grown out of his remarkable successes on the eisteddfod and concert platforms. His first album brought him wide acclaim, and he was invited by Wynne Evans (‘Gio Compario’) to launch his own album at the Lyric theatre, Carmarthen, and also invited for the second year running to represent Wales at the Paris Welsh Festival. He has been a guest soloist at Manchester’s ‘Thousand Voices’ concert, and has made several TV appearances over the last year. His voice has matured during the year since the first album, but his natural artistry remains, aided by his tutors Sharon Evans, Olwen Jones and Leah Owen, to whom Rhys is always keen to express his gratitude. Rhys also pays a special tribute to Annette Bryn Parri for her accompaniment and advice during the making of his new recording, and to Ynyr Llwyd for composing a song specially for Rhys.

Tracks -

01. Rhoi'r Wen yn Ol

02. Credu 'rwyf (I Believe)

03. Ail feiolin

04. Make you feel my love

05. Mor ddedwydd yw 'myd (What a Wonderful World)

06. Pe bawn i

07. Caro Mio Ben

08. Tears in Heaven

09. Rhosyn Gwyn (The rose)

10. Can you feel the love tonight

11. Anfonaf Angel.

 

 

Y llais ifanc gwych o Fôn yn canu clasuron Cymraeg a Saesneg*

Yn dilyn llwyddiant ei CD gyntaf, mae Rhys wedi parhau i fod yn brysur gyda sawl cyngerdd amrywiol sydd wedi ei weld yn mynd ar hyd a lled Cymru yn diddanu cynulleidfaoedd. Cafodd ei wahodd gan Wynne Evans (“Gio Compario”) i gymryd rhan mewn cyngerdd oedd yn lansio ei CD yn y 'Lyric' yng Nghaerfyrddin. Bu Rhys hefyd yn recordio i rifyn Nadolig 'Dechrau Canu Dechrau Canmol' o Lanrwst.

Yn dilyn llwyddiant yn yr Urdd unwaith eto cafodd Rhys wahoddiad i ganu yn yr Wyl Gymreig ym Mharis am yr ail flwyddyn yn olynol. Yn ddiweddar bu uchafbwynt yng ngyrfa Rhys, wrth iddo fynd dros y ffin i ganu yn Lloegr am y tro cyntaf, fel unawdydd yn y cyngerdd 'Mil o Leisiau' ym Manceinion. Yn ei amser hamdden, mae Rhys fel unrhyw fachgen o'i oed, yn mwynhau cicio pêl hefo'i ffrindiau ac yn brysur yn chwarae pêl droed bob dydd Sadwrn i dim ieuenctid Talwrn. Hon yw ei ail CD, ac fe’i recordwyd cyn i Rhys gymryd seibiant o ganu am gyfnod. Clywir bod ei lais wedi aeddfedu cryn dipyn ers rhyddhau’r CD gyntaf llynedd. Mae diolch arbennig i Annette Bryn Parri am gyfeilio ac am ei chyngor a chefnogaeth wrth wneud y CD hon, gan fod llais Rhys yn newid cymaint. Mae Rhys yn falch iawn o gael recordio cân a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer y CD gan Ynyr Llwyd. Hoffai Rhys ddiolch i Sharon Evans, Olwen Jones a Leah Owen am eu hyfforddiant ar hyd y blynyddoedd ac i’w wrandawyr am eu cefnogaeth a'u geiriau caredig bob amser.

Traciau -

01. Rhoi'r Wen yn Ol

02. Credu 'rwyf (I Believe)

03. Ail feiolin

04. Make you feel my love

05. Mor ddedwydd yw 'myd (What a Wonderful World)

06. Pe bawn i

07. Caro Mio Ben

08. Tears in Heaven

09. Rhosyn Gwyn (The rose)

10. Can you feel the love tonight

11. Anfonaf Angel.

 

£5.99 -



Code(s)Rhifnod: 50168862664
SAIN SCD2566

You may also like .....Falle hoffech chi .....