Oes yr Eira

Awdur: Elidir Jones.

Series: Chwedlau'r Copa Coch.

Following their adventures in Yr Horwth and Melltith yn y Mynydd, the heroes of Copa Coch venture from their home for the first time, trailing the mystery that hides in the hills and marshes of the kingdom of Bryn Hir.

Awdur: Elidir Jones.

Cyfres: Chwedlau'r Copa Coch.

Yn dilyn Yr Horwth a Melltith yn y Mynydd, mae arwyr y Copa Coch yn mentro o’u cartref am y tro cyntaf, ar drywydd dirgelwch sy’n cuddio ym mryniau a chorsydd teyrnas Bryn Hir.

Yng nghwmni Orig y tafarnwr, mae Sara, Pietro, Heti a Nad yn cael eu denu yn erbyn eu hewyllys i un o’r llefydd mwyaf diflas yn y byd, yn llawn dim byd ond defaid, glaswellt, pentrefi di-nod... ac, os oes unrhyw wirionedd yn y straeon diweddaraf, hen dduw anghofiedig sy’n crwydro’r tir, yn mynnu dial ar deyrnas sydd wedi ei adael ar ôl.


Mae Oes yr Eira yn nofel ffantasi sy’n parhau â chyfres epig a llawn hiwmor Chwedlau’r Copa Coch. Bydd yn sicr yn apelio at ddarllenwyr hen ac ifanc sy’n hoff o antur, brwydrau a pherygl.


Enillodd Yr Horwth, sef cyfrol gyntaf y gyfres, wobr Llyfr y Flwyddyn 2020 (categori Plant a Phobl Ifanc).

£7.99 -



Code(s)Rhifnod: 9781801060851
9781801060851

You may also like .....Falle hoffech chi .....