O Ran

Author: Mererid Hopwood.

Enillydd y Fedal Ryddiaith 2008

On the train between Paddington and Cardiff, Angharad Gwyn reads the proofs of a tribute volume to her father, Ifan, a successful musician. Angharad goes on a trip down memory lane, recalling her unusual childhood in Cardiff. A reprint of the novel that won Mererid Hopwood the Literary Medal at the 2008 National Eisteddfod.

 

Awdur: Mererid Hopwood.

Enillydd y Fedal Ryddiaith 2008

Ar y trên rhwng Paddington a Chaerdydd, mae Angharad Gwyn yn darllen trwy broflenni cyfrol deyrnged i'w thad, Ifan, cerddor llwyddiannus. Wrth i ni ddarllen gyda hi, mae'n dechrau hel atgofion am ei phlentyndod anarferol yng Nghaerdydd. Adargraffiad o nofel arobryn y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caerdydd a'r Cylch 2008.

 

Caf fy nhemtio i ofyn: beth wnaiff Mererid nesaf? A welir hi'n cipio Gwobr Llwyd o'r Bryn yn y Bala ymhen blwyddyn? Neu yn ennill y Rhuban Glas? Ie, merch amryddawn. Oherwydd dyma hi wedi cael y Gadair, y Goron a'r Fedal. Mae hi'n fardd ac yn llenor, ac y mae'r nofel hon yn gyfuniad o'r ddau beth oherwydd telyneg o nofel ydyw.

‘Fe'm hudwyd gan y nofel hon,’ meddai Catrin Beard yn ei beirniadaeth. ‘Dyma gyfrol fydd ... yn cyfoethogi ein llên gyfoes,’ meddai Aled Jones Williams, ac meddai Aled Islwyn, ‘... mae'r nofel hon yn taro deuddeg mewn ffordd synhwyrus a barddonol’. Dyna i chi beth yw canmoliaeth. Ac yr wyf yn llwyr gytuno â'r tri oherwydd mae hwn yn gampwaith.

Stori Angharad Gwyn sydd yma. Ni wyddom ddim am ei hynt a'i helynt wedi iddi dyfu heblaw bod yna rywun o'r enw Rob yn ei bywyd. Ar y trên o Lundain i Gaerdydd y mae hi'n darllen proflenni cyfrol deyrnged i'w thad, y cerddor Ifan Gwyn, a thrwy hynny y mae'r atgofion am ei phlentyndod yn y ddinas yn llifo. Wedi ei magu gan ei thad, yr oedd yna berthynas glòs rhyngddynt. Arddull stacato sydd ganddi. Hynny yw, brawddegau byr a chynnil fel mae'r atgofion yn dod yn ôl fesul tipyn.

Y mae proflenni'r gyfrol deyrnged i'w thad wedi eu hargraffu mewn llythrennau du a rhaid i mi gyfaddef, oni bai bod y broliant ar y clawr yn egluro, na fyddwn wedi deall ar y cychwyn beth oedd arwyddocâd y darnau hynny. Y mae ôl-fflachiadau a sangiadau bob amser yn fy ffwndro.

Ond dyna'r unig air o gŵyn sydd gen i. Y mae pob pennod yn cloi'n glyfar ac y mae hi wedi llwyddo'n arbennig i gyfleu ofnau ac amheuon a chyffro plentyndod. Ofni llid yr athro. Y crwban yn marw. Bedd ei mam. Ymgodymu gyda'i chydwybod. Meddwl ei bod yn hyll. Synnwn i fawr nad yw Angharad yn perthyn i mi oherwydd dywed bod ganddi draed llydan – byddai fy nhad yn dweud nad esgidiau ddylwn i eu cael, eithr pedolau – ac y mae de a chwith yn ddirgelwch i Angharad fel i minnau (a dyna pam, mae'n debyg) na allaf yrru car.

Ymgollais yn llwyr yn rhyferthwy'r eirfa ac yn y stori. Sydd â thro yn ei chynffon, gyda llaw. Yr oedd yna sarff yn Eden. Un peth arall. Nid oes gen i gywilydd brolio bod gen i eirfa eithaf eang ond deuthum ar draws gair newydd sbon a bu rhaid i mi fynd i Eiriadur y Brifysgol A–Ffysur i ddarganfod beth yw ‘papur erwydd’ (tudalen 120). Hwn yw'r papur y bydd cerddor yn cyfansoddi arno. Sef papur staff. Wel tawn i byth.

Fel y dywedais ar y cychwyn – telyneg o nofel.

Hafina Clwyd

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. 

£8.99 -



Code(s)Rhifnod: 9781843239826
9781843239826

You may also like .....Falle hoffech chi .....