Item added to your cart:Wedi ei roi yn eich basged:
Items in your cartNwyddau yn eich basged
TotalCyfanswm: GBP
Author: Ann Gruffydd Rhys.
The story of Ann Griffiths (1776-1805), the girl from Montgomeryshire who enjoyed the high-life, especially dancing, until she heard something that changed her life. This is the story of the life of the Christian and great hymn-writer from Dolwar Fach, told in a lively style, suitable for children of all ages, with original colour illustrations on every page.
Awdur: Ann Gruffydd Rhys.
Hanes Ann Griffiths (1776-1805), y ferch o Faldwyn a oedd yn mwynhau mynd i'r ffair, a dawnsio, tan iddi glywed rhywbeth a newidiodd ei bywyd. Dyma stori ryfeddol y Cristion a'r emynydd mawr o Ddolwar Fach, a hynny mewn arddull fywiog fydd yn addas ar gyfer plant o bob oed, gyda lluniau lliw gwreiddiol ar bob tudalen.
Hanes bywyd Ann Griffiths, Dolwar Fach, un o gymeriadau amlycaf Cristnogaeth ymneilltuol Cymru, a geir yn Nansi Dolwar.
Ceir darlun o fywyd cynnar bywiog Nansi yn mwynhau ffeiriau a rhialtwch yr oes, ac yn gwneud hwyl am ben ei brawd a’i gyfeillion a oedd wedi ymuno â’r Methodistiaid.
Yna, mae Nansi'n cael profiad go wahanol yn ffair Llanfyllin wrth wrando ar bregethwr o Bwllheli. Yn hytrach na dod adref o’r ffair i ddynwared y pregethwr a gwneud hwyl am ei ben gyda’i ffrindiau, mae Nansi’n mynd adref yn feddylgar iawn.
Mae ail hanner y llyfr yn sôn am y newid hwnnw ym mywyd Nansi, a hanes digwyddiadau a chymeriadau’r cyfnod, rhai fel John Elias a Thomas Charles, wedi eu gwau o gwmpas ei phrofiadau. Ni fyddai hanes bywyd Nansi yn gyfan heb ddyfynnu rhai o’i hemynau. Mae’r geiriau yn rhan o’r stori, wrth i ffydd Nansi dyfu.
Cyflwynir diwedd oes fer Nansi yn gadarnhaol yng ngoleuni’r ffydd a ddarganfyddodd hi yn Nuw.
Mae’r lluniau byw a’r ffeithiau cefndir ar dudalennau olaf y llyfr yn gymorth i roi darlun o fywyd yr oes yn ogystal â chyflwyno hanes y wraig ryfeddol yma’n effeithiol.
Nia W. Williams
Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.