Item added to your cart:Wedi ei roi yn eich basged:
Items in your cartNwyddau yn eich basged
TotalCyfanswm: GBP
Author: Prydwen Elfed-Owens.
A volume that shares the experiences of those who know what it is to live with dementia, and stories about the specialists who have supported them.
Awdur: Prydwen Elfed-Owens.
Dyma gyfrol sy'n rhannu profiadau unigolion sy'n gwybod beth yw byw gyda dementia, a hanes yr arbenigwyr a fu o gymorth iddynt.
Mae'r gyfrol yma yn rhyw fath o hunangofiant gan yr awdur, wrth iddi dynnu ar ei phrofiad o ofalu am ei gŵr sydd â dementia. Ond y mae'n llawer mwy na hynny hefyd, oherwydd fe gawn hanes 13 o ofalwyr, sy'n rhannu eu profiad gyda ni yn y gobaith y bydd hynny o gymorth i eraill.
Bydd llawer yn gwerthfawrogi eu gonestrwydd, tra bydd eraill o bosibl yn eu beirniadu am fynd yn gyhoeddus ar faterion ddylai gael eu cadw 'rhwng pedair wal'... 'o dan y mat'. Ond bydd pawb yn gytûn, mae'n siŵr, fod yr hanesion oll yn rhai trawiadol - dirdynnol yn wir - ac y gwelwn hiwmor hefyd yn brigo i'r golwg ar adegau drwy'r cyfan.
Yn ail hanner y gyfrol cawn ysgrifau gan arbenigwyr sy'n cynnig cyngor ymarferol ar amrediad o agweddau o ystyriaethau cyfreithiol i sut i fynd ati i hunanofalu.
Nid llawlyfr ar ddementia yw'r gyfrol hon, nac ychwaith ddadansoddiad gwyddonol o'r cyflwr. Mae'r pwyslais ar rannu profiadau unigolion sy'n gwybod beth yw byw â dementia, ynghyd â chynnig cyngor ymarferol.
Dyma gyfrol anhepgor, felly, i unrhyw un sydd am glywed yn uniongyrchol gan ofalwyr a chan arbenigwyr, er mwyn eu cynorthwyo i wir ddeall y cyflwr a'i effeithiau.