Mynd Adra'n Droednoeth

Author: Sonia Edwards.

A lyrical and memorable novel which asks: what is the price of true happiness?

 

Awdur: Sonia Edwards.

Nofel delynegol, gofiadwy i oedolion sy'n gofyn y cwestiwn oesol: beth yw pris gwir hapusrwydd?

 

Peidiwch â chael eich camarwain gan ddiffyg lliw a ffocws clawr y llyfr hwn. Nid nofel ddi-liw, annelwig yw hi. Mae ei ffocws hi’n glir iawn ar gariad, y cariad angerddol hwnnw sy’n ‘eich bwrw’n llwyr fel pe bai wal frics yn disgyn am eich pen’. Mae lliwiau cryf blodau’r haul – ‘y blodau sy’n chwerthin’ – a chlychau’r gog, ac arogleuon garlleg gwyllt a phethau’r môr, ynghyd â’r disgrifiadau braidd-gyffwrdd o garu dirgel, dwys, i gyd yn eu tro yn cyffroi’r synhwyrau.

Mae’r llyfr wedi'i rannu’n ddau. Yn yr hanner cyntaf mae Bet a Gwenllian, menywod gwahanol iawn i’w gilydd o ran oedran a dosbarth cymdeithasol, yn dechrau siarad â’i gilydd. Mae un profiad yn gyffredin iddyn nhw fodd bynnag – mae’r ddwy mewn cariad angerddol â dynion sy’n briod â rhywun arall – Bet â Harri, a Gwenllian â Rhydian. Dyna fan cychwyn eu hymwneud â’i gilydd. Erbyn hyn mae Gwenllian, ‘galwch fi’n Gwen’, yn gofalu am Harri mewn cartref henoed, a Bet, oddi ar i wraig Harri farw, yn ymweld yn gyson ag ef, er nad yw bellach yn ymateb iddi nac yn ei nabod hi, hyd yn oed.

Mae penodau’r hanner cyntaf yn eilio’n gelfydd rhwng Bet a Gwen yn disgrifio hynt eu carwriaethau – atgofion wedi’u didoli a’u mireinio gan amser yn achos Bet, ac ing carbwl a dirdynnol y presennol yn achos Gwen. Drwy hyn daw cymeriadau’r ddwy yn gliriach – Bet, y fenyw hunanfeddiannol, ddwys a synhwyrus, a Gwen, y ferch fyrbwyll, lawn angst, syddd wedi hen arfer cael ei hanwybyddu, ond sy’n llawn cariad a gofal am bobl eraill. Mae’r môr i Bet yn ffynhonnell rhamant ac atgofion nwydus, ond i Gwen mae’n destun hunllefau a braw. Mae Bet yn dyfynnu o gerdd gan T. Gwynn Jones, a Gwen ac Eifs, y ffrind fu mor fawr ei ofal ohoni, yn dyfynnu Wali Tomos!

Datblygiad y cyfeillgarwch, y gyd-ddibyniaeth yn wir, rhwng Bet a Gwen sydd yn ail hanner y nofel. Os mai myfyrdod ar gariad angerddol oedd yn yr hanner cyntaf, mae’r casineb angerddol a oedd wedi bod yn ffrwtian dan yr wyneb yn ddiarwybod i ni yn dod i’r wyneb yn yr ail. Gyda’i gilydd, mae ein dwy arwres yn trechu’r heriau.

Feiddiai unrhyw un awgrymu bod pethau yn disgyn i’w lle yn rhy gyfleus, tybed? Go brin, gan fod edafedd newydd gan Gwen i’w dirwyn ...

Llinos Dafis

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

£7.95 -



Code(s)Rhifnod: 9781907424632
9781907424632

You may also like .....Falle hoffech chi .....