Item added to your cart:Wedi ei roi yn eich basged:
Items in your cartNwyddau yn eich basged
TotalCyfanswm: GBP
Tracks -
1: Comin' Home
2: Unchained Melody
3: Reach The Sky
4: Brand New You
5: Flight
6: Alive
7: In Her Eyes
8: Until Then
9: To Where You Are
10: Keep On Believing
11: The Journey Home
12: Brand New You
13: Adre'n Ol
14: Siglo'r Byd I'w Seilie.
Dyma seren y West End, Mark Evans, gyda'i albwm Saesneg gyntaf- The Journey Home.
Mae ‘The Journey Home’ yn cynnwys trac o’r sioe Ghost - ‘Unchained Melody’- fersiwn hyfryd sydd yma o’r gân lle y cenir hi gyda’i gyd-seren o’r sioe, Siobhan Dillon. Hefyd ar yr albwm, mae Mark wedi cyd-weithio gyda Ysgol Glanaethwy yn ogystal â Ashleigh Gray sy’n ymuno gydag e far y trac ‘Alive’. Dywed Mark, ‘Ym Medi 2010 dechreuais feddwl am pa ganeuon i’w cynnwys ar yr albwm, ac ni feddyliais pa mor anodd fyddai’r dasg hon. Rwy’n berson amhendant iawn fel arfer, felly penderfynais i wneud yr albwm yn un bersonol a bron fel hunan-gofiant o’r deng mlynedd y treuliais i ffwrdd o ‘nghartref.
Mae Mark Evans yn 26 mlwydd oed, yn actio, canu, dawnsio, coreograffydd, yn seren yn y West End ac yn ymddangos yn aml iawn ar deledu yng Nghymru. Mae wedi chwarae rhan Troy Bolton yn High School Musical, Brad Majors yn nhaith Prydain o’r Rocky Horror Show, Curly yn nhaith diweddar Prydain o OKLAHOMA! yn ogystal â Fiyero yn y sioe hynod boblogaidd yn y West End, Wicked. Ar hyn o bryd mae’n chwarae rhan Sam yn’ GHOST the Musical’. Ymddangosodd Mark ar Your Country Needs You gyda Arglwydd Andrew Lloyd Webber lle cyrhaeddodd y ffeinal yn y gystadleuaeth. Mae ar hyn o bryd yn chwarae’r brif ran mewn rhaglen deledu i blant, Macaroni. Mae’n ymddangos yn rheolaidd ar sianel S4C ac yn aml iawn yn gyflwynydd ar whatsoninthetheatre.com, ac hefyd wedi cymryd rhan ar raglenni megis Dechrau Canu Dechrau Canmol; Wedi 7; Eisteddfod Annual Concert; rhaglen Shan Cothi; Noson Lawen; Cyngerdd Talent Mawr Cymru a llawer mwy. Wedi trafeilio’r wlad yn actio a pherfformio, mae Mark yn rhoi rhywbath yn ôl i’w gymdeithas. Mae’r cynllun West End in Wales yn symbyliad wedi ei greu gan Mark ym mis Awst 2006. Mae’n gynllun sy’n rhoi cyfle i blant ifanc Gogledd Cymru i gyd-weithio gydag ef ac eraill o’r West End mewn ysgol haf sioeau cerdd am wythnos. Maent yn cael agoriad llygad a chyngor gan rywun sydd wedi llwyddo yn y maes o’u tref nhw eu hunain.
Traciau -
1: Comin' Home
2: Unchained Melody
3: Reach The Sky
4: Brand New You
5: Flight
6: Alive
7: In Her Eyes
8: Until Then
9: To Where You Are
10: Keep On Believing
11: The Journey Home
12: Brand New You
13: Adre'n Ol
14: Siglo'r Byd I'w Seilie.