Lleisiau Beirdd Cymru, Yn Llefaru Eto

Tracks -

1: Cywydd Goronwy Owen - John Morris-Jones

2: Madog - T. Gwynn Jones

3: Y Nadolig Cyntaf - T.E. Nicholas

4: Hiraeth am Forgannwg - T.E. Nicholas

5: Geiriau - T.H. Parry-Williams

6: Hon - T.H. Parry-Williams

7: Moelni - T.H. Parry-Williams

8: Dychwelyd - T.H. Parry-Williams

9: Lavernock - Saunders Lewis

10: Bore o Fai 1972 - Saunders Lewis

11: Gweddi'r Terfyn - Saunders Lewis

12: Araith Emrys Wledig - Saunders Lewis

13: Aberdaron - Cynan

14: Anfon y Nico - Cynan

15: Capel Nanhoron - Cynan

16: Sir Forgannwg a Sir Gaerfyrddin - Gwenallt

17: Cymru - Gwenallt

18: Ar Gyfeiliorn - Gwenallt

19: Cywydd Mawl i D.J. Williams - Waldo Williams

20: Yr Alarch - Euros Bowen

21: Y Griafolen - Euros Bowen

22: Asgellaid o Aur - Euros Bowen

23: Y Milwr Marw - Pennar Davies

24: Llanddwyn - Pennar Davies

25: Ar Ymweliad - Alun Llywelyn-Willia.

 

 

40 o draciau o feirdd Cymru yn darllen eu gweithiau mwyaf adnabyddus. O T.Gwynn Jones i Gerallt Lloyd Owen, ac o Gwenallt i Iwan Llwyd. Lleisiau gwych T.H.Parry-Williams, Cynan, Rhydwen Williams, a recordiadau hanesyddol gan Waldo Williams a Saunders Lewis. Golwg newydd ar waith Euros Bowen a Niclas y Glais, ac yn goron ar y cyfan, recordiad unigryw o John Morris-Jones yn llafarganu darn o gywydd Goronwy Owen.

Cynhyrchwyd yr albym gan Dafydd Iwan a Gwyn Thomas a dyma gyflwyniad Gwyn Thomas i’r casgliad : Y mae clywed llais unrhyw fardd yn darllen ei waith ei hun yn rhoi dirnadaeth arbennig o’r gwaith hwnnw, yn rhoi inni’r patrwm o synau a glywodd ef yn ei gerddi. Hyd yn oed os nad ydi’r darlleniad yn un graenus – ac y mae ambell fardd yn ddarllenwr sâl - y mae i’r darlleniad ei werth, gan ei fod yn awgrymu mai fel hyn y clywodd y bardd symudiad ei gerddi. Ceir yma ddetholiad o leisiau nifer o feirdd nodedig y can mlynedd diwethaf, pob un ohonyn nhw wedi’n gadael ni erbyn hyn. Ond y mae nifer o feirdd y gellid disgwyl clywed eu lleisiau heb fod yma. Nid o fwriad y digwyddodd hynny. Y mae lleisiau rhai beirdd nad oes modd cael gafael arnynt - dyna ichwi lais R. Williams Parry, yn anad neb efallai, a llais W. J. Gruffydd, i enwi dim ond dau. Hynny ydi, dewis o leisiau yr oedd recordiadau ohonyn nhw ar gael a geir yma. Rydym ni’n dechrau efo llais John Morris-Jones, wedi ei godi oddi ar silindr hynafol y daeth David Thorne o hyd iddo yn yr Almaen wrth weithio ar dafodieithoedd. Dydi Syr John ddim yn darllen ei waith ei hun, a dydi o ddim yn eglur iawn, ac am hynny fe roddir yma gopi o’r hyn y mae’n ei ddarllen er mwyn ein helpu i ddilyn y llais, a chlywed sut y darllenai o gerdd ar gynghanedd - yr oedd ei ddarlleniadau o ganu caeth yn cael eu hystyried yn gyfareddol yn eu dydd. Yna clywir lleisiau nifer dda o feirdd yn darllen cerddi sydd yn nodweddiadol o gynnyrch eu hawen. Wrth lunio’r detholiad hwn, yr hyn a ddaeth yn drist o amlwg inni oedd mor bwysig ydi cadw defnyddiau llenyddol llafar, ac mor druenus ydi hi fod cymaint o’r defnyddiau hynny heb ei gadw, neu wedi mynd ar goll.

Traciau -

1: Cywydd Goronwy Owen - John Morris-Jones

2: Madog - T. Gwynn Jones

3: Y Nadolig Cyntaf - T.E. Nicholas

4: Hiraeth am Forgannwg - T.E. Nicholas

5: Geiriau - T.H. Parry-Williams

6: Hon - T.H. Parry-Williams

7: Moelni - T.H. Parry-Williams

8: Dychwelyd - T.H. Parry-Williams

9: Lavernock - Saunders Lewis

10: Bore o Fai 1972 - Saunders Lewis

11: Gweddi'r Terfyn - Saunders Lewis

12: Araith Emrys Wledig - Saunders Lewis

13: Aberdaron - Cynan

14: Anfon y Nico - Cynan

15: Capel Nanhoron - Cynan

16: Sir Forgannwg a Sir Gaerfyrddin - Gwenallt

17: Cymru - Gwenallt

18: Ar Gyfeiliorn - Gwenallt

19: Cywydd Mawl i D.J. Williams - Waldo Williams

20: Yr Alarch - Euros Bowen

21: Y Griafolen - Euros Bowen

22: Asgellaid o Aur - Euros Bowen

23: Y Milwr Marw - Pennar Davies

24: Llanddwyn - Pennar Davies

25: Ar Ymweliad - Alun Llywelyn-Willia.

£12.98 -



Code(s)Rhifnod: 5016886271828
SAIN SCD2718

You may also like .....Falle hoffech chi .....