La Salamandra

Author: Miriam Elin Sautin.

Who was the artist Isabel del Mar? Cat, her daughter, travels from Cardiff to Andalucía to try and understand her mother's past and their difficult relationship. She also tries to cope with her uncle and aunt's hostility towards her. As family secrets unravel, Cat is forced to reconsider her mother's artwork as well as her own nature in this sensual and impressionistic fictional debut.

 

Awdur: Miriam Elin Sautin.

Pwy oedd yr arlunydd Isabel del Mar? Teithia Cat, ei merch, o Gaerdydd i Andalucía i geisio deall ei mam a'r berthynas oriog fu rhyngddynt. Yno hefyd mae'n ceisio deall croeso oeraidd ei hewythr a'i modryb tuag ati. Wrth i gyfrinachau teuluol ddod i'r amlwg, caiff Cat ei gorfodi i ailystyried gwaith celf Isabel yn ogystal â'i natur hi ei hun. Nofel synhwyrus ac argraffiadol gan awdur newydd.

 

Magwyd Miriam Elin Sautin ar aelwyd amlieithog yn Llanbedrog, Pen Llŷn. Astudiodd Ffrangeg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Durham cyn treulio dwy flynedd ym mhrifysgolion Limoges a Lyon yn dysgu Saesneg. Mae ganddi hefyd MA mewn Dyniaethau Amgylcheddol o Brifysgol Bryste. Enillodd Fedal Ddrama Eisteddfod yr Urdd 2020-21 ac Ysgoloriaeth Emyr Feddyg yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yn 2023. La Salamandra yw ei nofel gyntaf.

£12.00 -



Code(s)Rhifnod: 9781917006354

You may also like .....Falle hoffech chi .....