Hiraeth am y Seren

Author: E Olwen Jones.

A new and diverse collection of tuneful carols by E Olwen Jones, including unison, two-tone, three and four voices arrangements. A suitable volume for high schools, individuals and choirs of all kinds.

 

Awdur: E Olwen Jones.

Casgliad amrywiol o garolau swynol gan E Olwen Jones, yn cynnwys trefniannau unsain, deusain, tri a phedwar llais. Cyfrol arbennig o addas a gyfer ysgolion uwchradd, unigolion a chorau o bob math.

 

Cynnwys -

Hiraeth am y seren
Dim ond un
Carol y gwyliau
Dagrau Mair
Dathlu'r Nadolig yn Jamaica
Colomen Hedd
Amen.

Mae E Olwen Jones yn enw cyfarwydd iawn ym myd cerddoriaeth yng Nghymru. Yn enedigol o Lerpwl, mae'n byw ym mhentref Talwrn, Ynys Môn, ers sawl blwyddyn bellach. Cyhoeddodd nifer fawr o lyfrau o ganeuon i blant a phobl ifanc ac mae ei threfniannau o ganeuon gwerin yn boblogaidd gan gorau o bob math ar hyd a lled Cymru. Bu'n athrawes mewn ysgolion yn Essex, Bangor a Môn cyn cael ei hapwyntio yn Bennaeth Adran Cerddoriaeth y Coleg Normal ym Mangor. A hithau wedi ymddeol, mae'n treulio llawer o'i hamser yn cyfansoddi ac yn trefnu cerddoriaeth a chyhoeddodd lyfr yn ddiweddar ar ganeuon y caethweision, 'Caneuon y Caethwas' (Cyhoeddiadau Sain).

£8.99 -



Code(s)Rhifnod: 9781910594391
9781910594391

You may also like .....Falle hoffech chi .....