Wedi ei roi yn eich basged:
Nwyddau yn eich basged
Cyfanswm: GBP
Dros y blynyddoedd, daeth Heather yn berfformwraig o safon yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac y mae ei recordiau cynnar yn dal eu tir ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach. Gwelir yma dylanwad ei gwr cyntaf, Geraint Jarman yn ogystal a dylanwad yr athrylith o'r Solfach, Meic Stevens.
Hefyd mae prawf yma o ddawn Heather fel cyfansoddwraig, a'i gallu i gyfleu profiadau ei bywyd mewn ffordd ddirdynnol ar brydiau. Y llais yw'r elfen sy'n cydio'r cyfan wrth ei gilydd - wrth anwylo cân werin fel 'Aderyn Pur', yn cyfleu tristwch 'Cân y Bugail' neu'r bwrw iddi gydag arddeliad ar 'Jiaw!'; hynny a'r awydd i wneud popeth gyda graen, gyda chymorth cerddorion o safon uchel.
Traciau -
01 - Glyndwr
02 - Pam yr wyt ti’n wylo, wylo?
03 - O dyma fore
04 - Dan y dwr
05 - Roedd gen i dy
06 - Dyddiau a fu
07 - Tra bo dau
08 - Nos ddu
09 - Can y bugail
10 - Aderyn pur
11 - Mynd yn ol i’r dre
12 - Cwm Hiraeth
13 - Jiawl
14 - Can i Janis
15 - Paid ag eistedd
16 - Penrhyn gwyn
17 - Bachgen
18 - Dwi ddim am dy weled…
19 - Aur yr heulwen
20 - Gwrando ar fy nghan
21 - Syrcas o liw
22 - Ble’r aeth haul y bore.