Item added to your cart:Wedi ei roi yn eich basged:
Items in your cartNwyddau yn eich basged
TotalCyfanswm: GBP
Limited Edition 12" Vinyl
To celebrate 50 years since the release of Geraint Jarman’s first album, ‘Gobaith Mawr y Ganrif’ (The great hope of the century), released in 1976, one of Wales’ most prominent contemporary artists, Sain label have released a special 50th anniversary edition re-issue, on vinyl.
His unique mix of rock, reggae and pop, with the odd tender ballad thrown in, was a style unheard of before in the Welsh language. He was the voice of Wales as he saw the country at the time and brought modern suburban, city life, into Welsh contemporary music. Inspiring a whole generation of Welsh youngsters with his electrifying and exiting live performances in the late 70s and early 80s.
‘Gobaith Mawr y Ganrif’ was recorded over two days at Stacey Road Studio, Cardiff, and mixed in ten hours, and showcases Jarman's talents as a poet as well as a composer. The musicians included the legendary Tich Gwilym on guitar, Lincoln Carr on bass and Phil Maynard, also on guitar.
Tracks -
Side One
01. Gobaith Mawr y Ganrif
02. “I’ve Arrived”
03. Lawr yn y Ddinas
04. Lle mae'r Bobl Gwyllt yn Byw
05. Lleisiau Gwallgofrwydd.
Side Two
06. Hyfryd Iawn
07. Gwylio y Byd ar y Teledu
08. Beth sy'n Digwydd yn y Stryd?
09. Merched Caerdydd
10. Pethau Brau.
Feinyl 12"
I ddathlu 50 mlynedd ers rhyddhau albym cyntaf Geraint Jarman, ‘Gobaith Mawr y Ganrif’, ac i dalu teyrnged i un o artistiaid cerddorol mwyaf blaengar a dylanwadol Cymru, mae Sain wedi ail-ryddhau nifer cyfyngedig o’r albym ar feinyl, ynghyd â crys t arbennig. Dyma albym cyntaf y canwr-gyfansoddwr a’r bardd, albym a ryddhawyd yn wreiddiol ar y label yn 1976.
Roedd Geraint Jarman yn ffigwr allweddol yn hanes cerddorol diweddar Cymru - yn gerddor heb ei ail a’i yrfa artistig wedi rhychwantu chwe degawd. Wedi’r albym cyntaf yma yn 1976, aeth ymlaen i recordio a rhyddhau albym gyda label Sain bob blwyddyn hyd 1981. Gyda’i gymysgedd unigryw o roc, reggae a pop, gydag ambell faled dyner, roedd arddull gerddorol Geraint Jarman yn torri tir newydd yn y cyfnod cynnar hwn, arddull gerddorol na chlywyd mo’i fath yn y Gymraeg cyn hynny. Roedd yn llais i’r Gymru newydd, llais yn cynrychioli’r Gymru ddinesig ifanc a chyfoes a’i berfformiadau byw cynhyrfus ar ddiwedd y 70au a dechrau’r 80au yn ddylanwad trydanol, yng ngwir ystyr y gair, ar do newydd o bobl ifanc ar hyd a lled Cymru.
Bydd Geraint Jarman a’i gerddoriaeth yn ddylanwad hir-hoedlog iawn ar Gymru a’i phobl a 2026 yn gyfle perffaith i ddathlu ei gyfraniad, ei lwyddiannau a’i waddol, a hynny drwy ail-ymweld â’r albym cyntaf hwnnw a fu’n ddechrau ar rywbeth arbennig iawn.
Traciau -
Ochr Un
01. Gobaith Mawr y Ganrif
02. “I’ve Arrived”
03. Lawr yn y Ddinas
04. Lle mae'r Bobl Gwyllt yn Byw
05. Lleisiau Gwallgofrwydd.
Ochr Dau
06. Hyfryd Iawn
07. Gwylio y Byd ar y Teledu
08. Beth sy'n Digwydd yn y Stryd?
09. Merched Caerdydd
10. Pethau Brau.