Geraint Jarman, Dwyn yr Hogyn Nol

DWYN YR HOGYN NOL contains 13 brand new songs that include deep reggae (Reggae Reggae), alternative rock (Hiraeth am Kylie), affecting acoustic songs (Marianne), classic rock (Be nei di Janis?) and unexpected pop hybrids (Strangetown).

The new tracks are a definite advance on the sound of the BRECWAST ASTRONOT album,his previous album which was seen as a comeback on release in 2011 that wowed the criticis and cemented his continuing relevance. On DWYN YR HOGYN NOL Geraint has been fortunate to be able to create music, live and in the studio, with a stable and trusted band that echoes the creative high points reached by his old 70’s/80’s band the Cynganeddwyr (The Poets).

Among the magnificent musicians working with Geraint are Peredur ap Gwynedd, Frank Naughton, Pete Hurley, Tim Robinon and Gareth Bonello, with Hana, Mared a Lisa Jarman sharing vocals with their father. As with BRECWAST the album was recorded in Ty Drwg Studios, Cardiff with Frank Naughton co-producing.

This album represents yet another step forward in an incredible career that stretches back to the time of the youthful image that adorns the sleeve artwork and is yet another reminder that although some of the themes on the songs reference the past (1970’s Cardff reggae clubs, youthful 1960’s hopes, 2000’s post millenial confusions) Geraint’s influence and music is definitely felt and belongs in the present culture.

Geraint continues to be a vital artist and anyone who has had the pleasure of seeing him perform with his band in 2014 knows that his voice, creative relevance and natural talent is undimmed and undiminished. A national treasure.

 

Mae DWYN YR HOGYN NOL yn cynnwys 13 o ganeuon newydd sy’n amrywio o reggae dwfn (Reggae Reggae), roc amgen (Hiraeth am Kylie), caneuon acwstig tyner (Marianne), roc clasurol (Be nei di Janis?) a phop annisgwyl (Strangetown).

Mae’r traciau yma yn gam pendant ymlaen o sŵn a chynnwys yr albym BRECWAST ASTRONOT, a oedd yn cael ei weld fel rhyw fath o ‘comeback’ albym i Geraint nol yn 2011 a’n gasgliad a lwyddodd i swyno’r beirniaid roc a dangos yn glir fod talent fawr a llais eiconig Geraint dal yn berthnasol.

Ar DWYN YR HOGYN NOL mae Geraint wedi cael amser i greu cerddoriaeth fel rhan o grŵp sefydlog, yn fyw ag yn y stiwdio, trefniant cerddorol sy’n debyg i ddyddiau mawr creadigrwydd cerddorol y Cynganeddwyr. Ymysg y cerddorion sy’n cyfrannu i’r record newydd mae Peredur ap Gwynedd, Frank Naughton, Pete Hurley, Tim Robinson a Gareth Bonello, gyda Hana, Mared a Lisa Jarman yn rhannu’r gwaith lleisio gyda Geraint. Unwaith eto recordiwyd y casgliad draw yn Stiwdios Ty Drwg, Caerdydd gyda’r cynhyrchu yn cael ei rannu rhwng Frank Naughton a Geraint.

Mae’ albym yma yn cynrychioli cam arall ymlaen mewn gyrfa anhygoel ac yn arwain yn glir i’r dyfodol er bod rhai o themâu'r caneuon yn edrych am yn nol i ddyddiau clybiau reggae Caerdydd yn y saithdegau, gobeithion llencyndod y chwedegau a dirgelwch a dryswch bywyd dynol yn y cyfnod ol-fileniwm.

Artist allweddol ar gyfer y presennol a’r dyfodol yw Geraint, ac mae unrhyw un sydd wedi cael y fraint o weld Geraint a’r grŵp yn chwarae yn fyw yn 2014 yn gwybod fod y tan, angerdd, creadigrwydd a bywiogrwydd yr artist unigryw yma heb bylu o gwbl.

£10.00 -



Code(s)Rhifnod: 5024545705522
ANKST 137

You may also like .....Falle hoffech chi .....