Geiriau Gorfoledd a Galar

Author: D. Geraint Lewis.

An anthology of poems, some original Welsh compositions, and others translated from other languages. They are all linked to those momentous occasions in a lifetime - birth, marriage and death.

 

Awdur: D. Geraint Lewis.

Casgliad o ddarnau o lenyddiaeth, rhai wedi eu cyfansoddi'n wreiddiol yn Gymraeg, eraill wedi eu cyfieithu o ieithoedd eraill, yn arbennig ar gyfer yr achlysuron pwysig hynny ym mywydau pob un. Mae'r gyfrol yn cynnwys pytiau addas i'w darllen neu i'w rhoi mewn cerdyn adeg geni, priodi a marw.

Tybed sawl gwaith y cawsoch chi drafferth dod o hyd i'r peth iawn i'w ddweud ar achlysur arbennig? Dyna brofiad pob un ohonom ar ryw adeg neu'i gilydd, mae’n siŵr: sut mae mynegi llawenydd ar adegau o orfoleddu, cydlawenhau a dathlu; a mynegi tristwch ar adegau o rannu gofid, galar ac ansicrwydd? Sut wedyn y mae cynnig gobaith a chysur ar adegau pan fydd angen annog eraill i ddal ati?



Dyma gyfrol anhepgorol i rai sy'n cymryd rhan mewn achlysuron cyhoeddus – pan fydd galw ar rywun i ddweud gair doeth mewn bedydd, priodas neu angladd, mewn parti pen-blwydd arbennig neu ar adeg ymddeol. Mae yma hefyd ddigonedd o ddyfyniadau priodol i'w hysgrifennu ar gerdyn – geiriau o gadernid, o lawenydd ac o gysur ar gyfer holl droeon mawr bywyd.

Ond cewch rhwng y cloriau hyn hefyd drysorau i dreulio orig dawel ar eich pen eich hun yn eu cwmni. Yn wir, unrhyw adeg y bydd arnoch angen gair yn ei bryd – boed ar achlysur mawr cyhoeddus neu mewn ennyd bersonol – dyma’r llyfr i chi.

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

£8.99 -



Code(s)Rhifnod: 9781785620744
9781785620744

You may also like .....Falle hoffech chi .....