Wedi ei roi yn eich basged:
Nwyddau yn eich basged
Cyfanswm: GBP
Yr 20 emyn Cymraeg mwyaf poblogaidd.
Yn ystod misoedd cynnar 1993, bu cannoedd o bobl ledled Cymru yn rhestru eu hoff emynau Cymraeg, a'u gosod mewn trefn o 1 i 20. Rhoddwyd y rhestrau hyn at ei gilydd, a thrwy gymorth cyfrifiadur cyrhaeddwyd at y casgliad hwn, yn nhrefn eu poblogrwydd. Wedi cyrraedd y rhestr derfynol, detholwyd o blith llyfrgell recordiau cwmni SAIN yr emynau hyn yn cael eu canu gan amrywiaeth o unawdwyr, corau a chymanfaoedd. A dyma ni - y casgliad cyntaf o'i fath o emynau gorau ein cenedl.
Traciau -
01 - Pantyfedwen (Cymanfa Treforus)
02 - Gweddi Dros Gymru (“Finlandia”) (John Eifion & Côr Penyberth)
03 - Bro Aber (Cymanfa’r Bala)
04 - Dim ond Iesu (Gwyn Hughes Jones)
05 - Rhys (“Rho im yr hedd”) (Stuart Burrows)
06 - Lausanne (“Iesu, Iesu, rwyt ti’n ddigon”) (Gwyn Hughes Jones)
07 - Calon Lân (Stuart Burrows)
08 - Cwm Rhondda (Cymanfa Treforus)
09 - Builth (“Rhagluniaeth fawr y nef”) (Cymanfa Eisteddfod Llangefni)
10 - Price (“I Galfaria trof fy wyneb”) (D Eifion Thoma & Côr Meibion Llanelli)
11 - Sarah (“Mi glywaf dyner lais”) (Côr Meibion Pontarddulais)
12 - Clawdd Madog (“Os gwelir fi bechadur”) (Cymanfa Treforus)
13 - Sirioldeb (“Un fendith dyro im”) (D Eifion Thomas & Côr Meibion Llanelli)
14 - Arwelfa (Cymanfa Eisteddfod Llangefni, 1983)
15 - Godre’r Coed (“Tydi wyt deilwng fyth o’m cân”) (Cymanfa Corau Unedig Môn, 1977)
16 - Coedmor (“Pan oedd Iesu dan yr hoelion”) (Wyn Ashton & Côr Orffews Treforus)
17 - Rachie (“I bob un sy’n ffyddlon”) (Cantorion Cynwrig)
18 - In Memoriam (“Arglwydd Iesu, arwain f’enaid”) (Cantorion Cynwrig)
19 - Pennant (“Dyma gariad fel y moroedd”) (Cymanfa Eisteddfod Wrecsam)
20 - Tÿ Ddewi (“Mi dafla’ maich”) (Cymanfa Corau Unedig Môn, 1977).