Item added to your cart:Wedi ei roi yn eich basged:
Items in your cartNwyddau yn eich basged
TotalCyfanswm: GBP
Tracks -
01. Hogan Dre yn y Wlad
02. Gweddi Ger y Lli
03. Chwifio y Faner
04. Clo ar dy Galon
05. Jin Pinc
06. Ar Ddiwedd yr Enfys
07. Ty Coch
08. Llyncu'r Abwyd
09. Y Copa
10. Fy Meibl Bach
11. Cur y Sul
12. Dim Hanner Call (gyda Phil Gas).
Mae’r albwm yma dipyn yn wahanol i’r cyntaf - ‘Deryn Glan i Ganu’ cafodd ei ryddhau yn 2018. Mae yna amrywiaeth o ganeuon sy’n dangos yr ochr arall i gymeriad Emma, yr ochr hwylus, llawn bywyd ac yn aml yn ddoniol. Mae’r trac cyntaf ‘Hogan dre yn y wlad’ yn esiampl o hyn; yn trafod yr anhawster digri sy’n wynebu hogan ifanc wrth iddi drafod llwybr gwledig, cefn gwlad.
Mae’r trac diwethaf yn ddeuawd gyda Phil Gas, ac mae’r teitl ‘Hanner Call’ yn esbonio pob dim amdani. “Mae’r peidio gigio trwy’r cyfnod clo wedi bod yn anodd iawn i ni gyd fel artistiaid” meddai Emma, “ond dwi wedi defnyddio'r amser yna i gyfansoddi mwy o ganeuon”. Mae’r casgliad yma hefyd yn cynnwys baledi - ‘Gweddi ger y lli’, caneuon serch - ‘Clo Ar Dy Galon’ a hyd yn oed cân werinol - ‘Llyncu’r Abwyd’ sy’n rhestri idiomau tlysaf Pen Llŷn. “Mae yna gân tu ôl i bob profiad mewn bywyd” meddai Emma. “Am fy mod i wedi bod trwy fwy o brofiadau ers yr albwm cyntaf rwy’n dysgu rhywbeth newydd bob dydd, a hynny sydd yn helpu fi yn bersonol i gyfansoddi”.
Traciau -
01. Hogan Dre yn y Wlad
02. Gweddi Ger y Lli
03. Chwifio y Faner
04. Clo ar dy Galon
05. Jin Pinc
06. Ar Ddiwedd yr Enfys
07. Ty Coch
08. Llyncu'r Abwyd
09. Y Copa
10. Fy Meibl Bach
11. Cur y Sul
12. Dim Hanner Call (gyda Phil Gas).