Dysgu Byw

 

Author: Sarah Reynolds

A light-hearted novel by a new author about a group of people learning Welsh.

 

 

Awdur: Sarah Reynolds.

Nofel gyntaf ddoniol ac ysgafn gan awdur newydd am hanes criw o ddysgwyr Cymraeg mewn dosbarth nos. 

Mae Siwan yn actores. Wel, mae hi’n ‘gorffwys’ ar hyn o bryd, ac yn y cyfamser, mae hi’n ennill ei thamaid fel tiwtor Cymraeg. Dyma’i hanes hi a’i grŵp hynod amrywiol o ddysgwyr; rhai’n dda a rhai... ychydig yn wahanol i’r arfer. Ond mae mwy na gwersi iaith yn y nofel hon.

Cewch ryfeddu at hanesion nosweithiau mawr, troeon trwstan, priodas hoyw ar fferm alpacaod, blodfresychen fawreddog, tipi, plasty, tŷ bach llithrig, mousse siocled a phen-ôl enfawr yn glanio ar yr Wyddfa ymhlith pethau anhygoel eraill...

Mae Dysgu Byw yn nofel ddoniol, fyrlymus ac ychydig bach yn cheeky. Os ydych chi’n chwilio am rywbeth difyr i fwynhau ei ddarllen gyda diod fach a’ch traed i fyny, rydych chi wedi dod o hyd i’ch partner perffaith.

£8.99 -



Code(s)Rhifnod: 9781785621550
9781785621550

You may also like .....Falle hoffech chi .....