Adolygiad Cwsmeriaid / Customer Reviews

Yn seiliedig ar 1 review / Based on 1 review Ysgrifennwch adolygiad am y cynnyrch yma / Write a review

Dylan Morris, Haul ar Fryn


Tracks -

01. Haul ar Fryn

02. Be Dwi'n Mynd i Neud? (Hebddat ti)

03. Does 'Na Neb

04. Y Ferch Efo'r Galon Aur

05. Angor.


 

  

Bron dros nos, daeth Dylan Morris yn enw ac yn llais cyfarwydd drwy Gymru gyfan.  Ers dechrau’r cyfnod clo mae ei berfformiadau ar dudalen facebook ‘Côr-ona!’ wedi denu dros 40,000 o wylwyr a’i boblogrwydd yn mynd o nerth i nerth.  Bellach mae ar fin rhyddhau ei EP cyntaf.

Wedi ei fagu yn sŵn rhai o gantorion Cymraeg poblogaidd y 60au, rhai fel Dafydd Iwan, Hogia Llandegai a Tony ac Aloma, roedd Dylan wastad â’i fryd ar gamu tu ôl i’r meic a chanu go iawn ar lwyfan, ond rhywsut, ddigwyddodd hynny ddim, tan yn ddiweddar.  Bu’n canu’n lleol mewn cystadleuthau karaoke a meic agored yn rhai o dafarndai tref Pwllheli ers rhai blynyddoedd ond chafodd o ddim ‘gig’ iddo’i hun tan Fawrth yr 2il eleni, a hynny mewn noson ‘Jazz a Chips’ yn un o siopau chips y dref.  Wedyn daeth y cyfnod clo a roddodd ddiwedd ar berfformio yn gyhoeddus am y tro.  Ond daeth cyfle arall iddo rannu ei berfformiadau, a hynny ar dudalen facebook ‘Cor-ona!’.  Hyd yn hyn mae Dylan wedi rhannu dros 70 o ganeuon, ei gynulleidfa yn tyfu o wythnos i wythnos a’i gymysgedd o ganeuon amrywiol, ei lais melfedaidd a’i arddull ddiffuant, gartrefol yn apelio at ystod eang o bobl o Fôn i Fynwy.

Ddechrau’r haf bu’n cydweithio ag Arfon Wyn ar gân o waith Arfon a Rhian Evans, sef ‘Haul ar Fryn’, a dyma un o’r caneuon sydd i’w chlywed ar yr EP newydd.  Gyda chymorth cerddorion fel Arfon ar y gitâr, Nest Llewelyn Jones ar y piano a’r lleisiau cefndir, Sion Gwilym Roberts ar y drymiau a’r bas, Elin Haf Taylor ar y cello, Richard Synnott ar y sacsoffon a Russ Hayes ar y bas, piano drydan ac organ, mae’r EP yn cynnwys pedair cân wreiddiol a threfniant newydd o gan Tudur Huws Jones, ‘Angor’.

 

Traciau - 

01. Haul ar Fryn

02. Be Dwi'n Mynd i Neud? (Hebddat ti)

03. Does 'Na Neb

04. Y Ferch Efo'r Galon Aur

05. Angor.


£6.99 -



Code(s)Rhifnod: 5016886282527
SAIN SCD2825

You may also like .....Falle hoffech chi .....