Item added to your cart:Wedi ei roi yn eich basged:
Items in your cartNwyddau yn eich basged
TotalCyfanswm: GBP
Tracks -
01. Dyddiau Gwell
02. Ar yr un Lôn
03. Dagrau yn y glaw
04. Os dwedi ffarwel
05. Y Gwydriad Olaf
06. Ty Coch Caerdydd
07. Cwch dy gariad
08. Magic Gift
09. Canu yn Codi Calon
10. Your Lucky Stars
11. Ti Byth yn Deud Gair.
Yn dilyn llwyddiant ysgubol yr EP gyntaf, dyma alym llawn Dylan Morris sydd yn cynnwys 11 cân newydd.
Mae rhyddhau ei albym cyntaf wedi bod yn sbardun i Dylan ysgrifennu geiriau am y tro cyntaf. Mae ‘Dagrau yn y Glaw’ yn deyrnged bersonol i’w daid, fu’n gymaint o ddylanwad arno. Ei daid a’i nain, Now a Betty, gyflwynodd Dylan i gymaint o fawrion y sin gerddoriaeth boblogaidd yng Nghymru. Yn blentyn treuliodd oriau hapus iawn yn eu cwmni yn gwrando ar rai fel Dafydd Iwan a Hogia Llandegai, a’r oriau rheiny wedi bod yn hwb pendant i Dylan gychwyn canu ei hun.
Mae sawl cân ar yr albym wedi eu cyfansoddi gan Arfon Wyn, un a fu’n gefn ac yn gyfaill i Dylan dros gyfnog y pandemig, ac mae cân gyntaf yr albym, ‘Dyddiau Gwell’, yn gywaith rhwng y ddau ac yn gân o obaith mewn dyddiau dyrys. Mae ‘Ar yr un lôn’ yn gân newydd sbon gan Tudur Huws Jones ac yn ein hargyhoeddi nad oes ots am liw, statws na safle, gan ein bod i gyd yn y pendraw ‘ar yr un lôn’. Baled draddodiadol yw ‘Tŷ Coch Caerdydd’ ac mewn cyferbyniad llwyr mae dwy gân Saesneg hefyd ar yr albym, y ddwy yn ganeuon gwreiddiol gan Arfon Wyn.
Mae dwy westai arbennig yn ymuno ar yr albym hefyd, dwy gantores sy’n agos iawn at Dylan – mae ei chwaer, Siân, yn ymuno ar y ddeuawd ‘Y Gwydriad Olaf’, cyfieithiad Dylan ei hun o’r gân ‘Whiskey Lullaby’, a Cari, merch Dylan, sy’n serennu ar y ddeuawd ‘Canu yn codi calon’, cân sy’n sicr yn llwyddo i wneud hynny, ac sydd hefyd yn cynnwys Aron, mab Dylan, ar y tamborîn.
Traciau -
01. Dyddiau Gwell
02. Ar yr un Lôn
03. Dagrau yn y glaw
04. Os dwedi ffarwel
05. Y Gwydriad Olaf
06. Ty Coch Caerdydd
07. Cwch dy gariad
08. Magic Gift
09. Canu yn Codi Calon
10. Your Lucky Stars
11. Ti Byth yn Deud Gair.