Wedi ei roi yn eich basged:
Nwyddau yn eich basged
Cyfanswm: GBP
Mae DYLAN CERNYW yn un o delynorion amlycaf Cymru, fel unawdydd disglair, cyfeilydd amryddawn ac fel rhan o ddeuawd telyn Arpe Dolce a deuawd telyn/piano Piantel. Yn Eisteddfod Genedlaethol 2011 cafodd Dylan Cernyw ei urddo i’r Orsedd am ei waith fel cyfeilydd a thelynor yn ein gwyliau cenedlaethol. Mae wedi teithio yn helaeth fel unawdydd telyn a chyfeilydd, ac wedi perfformio yn Neuadd Frenhinol Albert gan rannu llwyfan gyda llu o artistiaid byd-enwog. Mae Dylan yn falch o gyflwyno i chi ei bedwaredd albwm i’w rhyddhau ar label Sain gan obeithio eich bod yn ei mwynhau cymaint ag y gwnaeth ef fwynhau ei chreu.
Traciau -
1: Tico Tico no Fuba
2: If a Picture Paints a Thousand Words
3: Adre
4: Rondo of the House of Sunflowers
5: My Little Welsh Home
6: Kentucky Rag
7: Fields of Gold
8: The Swan
9: Mil Harddach Wyt
10: The Changing Seasons
11: Make You Feel My Love
12: Suai'r Gwynt
13: Summertime
14: The Minstrel's Latin Awakening.