Deffro i Fore Gwahanol

Author: Glyn Tomos.

Hunangofiant Glyn Tomos

The much-awaited autobiography of Glyn Tomos, a slate miner's son who became a prominent figure in the struggle for the preservation of the Welsh language and the future of Welsh communities.


 

Awdur: Glyn Tomos.

Hunangofiant Glyn Tomos

Mae Glyn Tomos yn ddyn y mae parch mawr iddo fel gŵr o ddaliadau cryf dros ddyfodol Cymru a'r bröydd Cymraeg, ac un yn meddu ar angerdd am ein bywyd cymunedol a cherddoriaeth Gymraeg.


Yn un sy'n fodlon sefyll yn y bwlch dros yr hyn mae'n ei gredu, cawn ddod i ddeall lle y magodd y gwrhydri yma wrth iddo ddarlunio bywyd ar aelwyd gyffredin a chynnes ym mhentref chwarelyddol Dinorwig yn y 50au a'r 60au.


Cawn weld sut y daeth yn ymgyrchydd iaith blaenllaw, angerdd a ddaeth i'r amlwg yn ystod ei gyfnod cythryblus fel myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor yn y 70au. Codir y clawr hefyd ar ei brofiadau difyr yn olygydd y cylchgrawn pop enwog, Sgrech ymysg cyhoeddiadau eraill.

Ac yntau wedi gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Ngwynedd am ddeugain mlynedd, mae'r gyfrol afaelgar hon yn cynnig darlun cofiadwy ohono fo a'r gymuned y mae'n ei charu a'i thrysori gymaint.

£8.50 -



Code(s)Rhifnod: 9781845277840
9781845277840

You may also like .....Falle hoffech chi .....